Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Eid Mubarak / Eid Hapus, i bawb sy'n dathlu!
Yn eu geiriau eu hunain, dyma rai o'n cydweithwyr sydd wedi bod yn dilyn Ramadan dros yr ychydig wythnosau diwethaf yn egluro rhagor am bwysigrwydd y cyfnod hwn.
“Rwyf wedi bod yn gwnstabl gyda Heddlu De Cymru ers dwy flynedd, a byddaf yn symud i rôl ditectif cyn bo hir. Cyn hynny roeddwn i'n gweithio gyda Heddlu Dyffryn Tafwys.
“Rwy'n Fwslim Pacistanaidd, ac rwyf wedi bod yn dilyn Ramadan dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Yn ystod mis Ramadan, nid ydym yn bwyta nac yn yfed dim o fore gwyn tan nos bob dydd.
“Mae Ramadan hefyd yn adeg i fyfyrio'n ysbrydol a dangos hunanddisgyblaeth, ac mae elfen ymprydio'r mis yn ein helpu i feddwl am y bobl hynny sy'n llai ffodus na ni.
“Gall fod yn anodd gwneud gwaith yr heddlu ac ymprydio ar yr un pryd, ond mae Ramadan yn ymwneud â hunanreolaeth, puro ysbrydol, ac ymgysegru.
“Rwy'n ffodus iawn bod gen i gydweithwyr mor gefnogol. Mae wedi bod yn bosibl imi weithio oriau mwy hyblyg sy'n diwallu fy anghenion, ac rwy'n ddiolchgar am hynny.”
“Rwyf wedi bod yn swyddog heddlu gyda Heddlu De Cymru ers 17 mlynedd ac wedi nodi mis Islamaidd sanctaidd Ramadan bob blwyddyn – mae'n fis pwysig iawn i Fwslimiaid.
“I mi mae elfen ymprydio Ramadan yn ymwneud â chofio am y bobl hynny nad oes ganddyn nhw ddigon i'w fwyta – sy'n byw mewn tlodi. Nid allan o ddewis y mae llawer o bobl yn y byd yn ymprydio, ac mae peidio â bwyta nac yfed dim yn ystod oriau golau dydd yn ein hannog i feddwl am y bobl hynny sy'n llai ffodus na ni.
“Mae fy nghydweithwyr i yn gefnogol iawn ac yn llawn dealltwriaeth. Mae'n werth dweud y gall y rhai sy'n dilyn Ramadan wneud eu gwaith llawn cystal ag y maen nhw'n ei wneud gweddill y flwyddyn, ond mae dealltwriaeth a chefnogaeth cydweithwyr yn gwneud gwahaniaeth pwysig.
“Rwy'n Brif Arolygydd gweithredol ac yn gweithio yn ardal Caerdydd a'r Fro. Rwy'n gyfrifol am yr Arolygwyr ‘Efydd’ sy'n rheoli digwyddiadau byw bob awr o'r dydd a'r nos. Hefyd, ar hyn o bryd, rwy'n rheoli nifer o bortffolios eraill.
“Rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau mewn iwnifform ac allan o iwnifform drwy gydol fy ngyrfa ac mewn gwahanol rannau o'r heddlu. Rwyf bob amser wedi cael cefnogaeth yr uwch-dîm rheoli ac rwyf nawr yn achub ar y cyfle i gefnogi fy nghydweithwyr i sydd hefyd yn dilyn Ramadan.”
Llun: Y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Alun Michael ym mosg Dar Ul-Isra yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf
“Rwy'n Fwslim Bengalaidd, ac rwyf wedi bod yn dilyn Ramadan y mis hwn.
“Peidio â bwyta nac yfed dim yw'r hyn y mae pobl yn ei gysylltu fwyaf â Ramadan, ond dim ond rhan fechan ohono yw hynny mewn gwirionedd. Mae hefyd yn amser i addoli yn fwy na'r arfer, gan fod yn ystyriol iawn o'r hyn rydych yn ei ddweud ac yn ei wneud, a chefnogi elusennau.
“Rwyf wedi bod gyda Heddlu De Cymru ers pum mlynedd, gan weithio yn y tîm plismona yn y gymdogaeth ym Mae Caerdydd. Mae pob sarsiant rwyf wedi ei gael yn yr heddlu wedi bod yn gefnogol, ac yn ystod Ramadan gallaf newid neu addasu fy sifftiau, gan ddibynnu ar niferoedd staff.
“Mae ein tîm plismona yn y gymdogaeth yn un amrywiol, a bob blwyddyn bydd rhai o fy nghydweithwyr yn mynd ati i ymprydio rhywfaint i ddangos eu cefnogaeth.
“Rwyf hefyd yn gweithio mewn ardal amrywiol iawn. Rwy'n ymweld â mosgiau fel rhan o'r swydd, ac weithiau byddaf yn achub ar y cyfle i weddïo yno, yn ogystal â gwneud hynny yn ein hystafell aml-ffydd yng ngorsaf yr heddlu.
“Mae Ramadan yn ymwneud â cheisio camu'n agosach at Dduw. Mae fel adfywiad ysbrydol.”