Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:49 30/05/2022
Mae'r fenyw a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ychydig cyn hanner dydd, ddydd Sadwrn 28 Mai yn Dumfries Place yng nghanol Caerdydd wedi cael ei henwi fel Sheri Omar, 63 oed, o Adamstown yng Nghaerdydd.
Mae teulu Sheri wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi:
“Roedd Sheri yn chwaer annwyl i Marie, Corinne, Vanessa, Anthony, Craig, Paul a Lisa a fu farw bedair blynedd yn ôl.
“Heddiw, rydym ni fel teulu wedi ein llorio'n llwyr, ac mae ein calonnau wedi torri wrth i ni alaru am ein chwaer, modryb a hen fodryb annwyl a gollwyd mewn amgylchiadau mor drasig.
“Hoffai ein teulu hefyd ddiolch i unrhyw un a stopiodd i helpu, rydym yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Heddwch i dy lwch, Sheri, byddwn yn dy gofio am byth xxx.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad ac yn apelio ar unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd â fideo o gamera dashfwrdd o'r digwyddiad sydd heb gysylltu â ni eto.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2200178270.