Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r swyddog cyntaf yn Heddlu De Cymru wedi rhoi Naloxone trwynol, sef gwrthgyffur brys ar gyfer achosion o orddos a achosir gan heroin a sylweddau opiadau neu opioidau eraill. Mae'n gweithio drwy wrthdroi'r anawsterau anadlu a all ddigwydd yn sgil gorddos o'r sylweddau hyn, er mwyn rhoi mwy o amser i ambiwlans gyrraedd.
Ar 14 Ebrill 2022, roedd PCSOs ar batrôl fel rhan o ymgyrch i gadw llygad am achosion o ‘gogio’, sef menter sy'n ceisio diogelu pobl agored i niwed a all fod wedi cael eu targedu gan ddelwyr cyffuriau llinellau cyffuriau.
Yn ystod y patrolau hyn, daeth swyddogion o hyd i fenyw anymatebol, yr amheuwyd ei bod wedi cael gorddos, a gofynnwyd i PC Kyle Scott gynorthwyo am ei fod yn cario'r cyffur a all achub bywydau. Rhoddodd un dos o Naloxone i'r fenyw a gwnaeth hyn ei hadfywio'n llwyddiannus. Arhosodd yn effro nes gallai parafeddygon ei chyrraedd a darparu'r gofal angenrheidiol.
Yn dilyn hyn, arweiniodd ymchwiliad pellach at arestio, cyhuddo a remandio dyn 21 oed o Birmingham am droseddau yn ymwneud â masnachu cyffuriau Dosbarth A lle daethpwyd o hyd i gyffuriau, miloedd o bunnoedd mewn arian parod a ffôn symudol dros dro.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
“Ers 2009, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r cynllun i ddosbarthu Naloxone ac mae'n rhan allweddol o'n gwaith i leihau niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau. Y ffaith bod swyddogion wedi llwyddo i achub bywyd rhywun yw'r union reswm pam ein bod yn parhau i wneud y buddsoddiadau hyn ac mae'n tynnu sylw at ba mor bwysig ydyw bod yr heddlu yn cario Naloxone er mwyn helpu i leihau marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru ymhellach.
Hoffwn ddiolch i PC Kyle Scott a'i gydweithwyr am weithredu mor gyflym.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Mae cyffuriau yn cael effaith enfawr ar y rheini sy'n brwydro â chamddefnyddio sylweddau, eu teuluoedd a chymunedau cyfan, a dyna pam ein bod yn gweithio'n ddiflino gyda phartneriaid i fynd i'r afael â'r broblem mewn sawl ffordd wahanol. Wrth wneud hynny, mae'n bwysig cofio bod y rheini sy'n gaeth i gyffuriau yn aml yn ddioddefwyr eu hunain, a dyna pam mae mor bwysig ymyrryd ar y cyfle cynharaf posibl, cynnig cymorth effeithiol ac ymdrechu i dorri'r cylch niwed.
“Nododd Syr Robert Peel mai un o gyfrifoldebau craidd gwasanaeth yr heddlu yw diogelu bywyd; yma gwelwn enghraifft glir o swyddogion o Heddlu De Cymru yn defnyddio Naloxone i atal marwolaeth y gellid ei hosgoi, darparu cyfle i gael cymorth a chynnig llwybr hanfodol oddi wrth niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae gweithredoedd cyflym PC Scott yn dangos mai swyddogion yr heddlu yw'r cyntaf i gyrraedd sefyllfaoedd a all beryglu bywydau yn aml ac rwy'n hynod o falch ei fod wedi cael ei hyfforddi i ddefnyddio Naloxone, gan atal yr hyn a allai fod wedi bod yn ddigwyddiad llawer mwy difrifol fel arall.”
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Gareth Morgan:
“Dylai PC Scott fod yn falch iawn ohono'i hun am fod y swyddog cyntaf i roi Naloxone i berson mewn angen.
“Drwy gario'r gwrthgyffur hwn, mae gan swyddogion fynediad at adnodd hanfodol i leihau niwed a all atal marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau a'r effeithiau dilynol ar deuluoedd a chymunedau.
“Mae'r fenyw hon a gafodd y dos hwn o Naloxone bellach wedi cael ei hatgyfeirio at wasanaethau lleihau niwed am driniaeth a gwasanaethau ymyrryd pellach, gan roi cyfle iddi ailadeiladu ei bywyd.”