Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:44 10/05/2022
Llongyfarchiadau mawr i Marcia Gittens o #TîmHDC, sydd wedi ennill gwobr ryngwladol am ei hymrwymiad i wella plismona i bawb.
Mae Marcia, sy'n arwain ein Huned Rheoli Achosion o fewn ein Hadran Adnoddau Dynol, wedi cael ei henwi yn Ddinesydd y Flwyddyn gan y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Menywod yn yr Heddlu.
Mae Marcia wedi bod yn allweddol yn arwain newid o fewn plismona dros yr ugain mlynedd diwethaf, gan sicrhau y caiff swyddogion, staff a chymunedau eu trin yn gyfartal, a gydag urddas a pharch.
Wedi ei disgrifio fel “menyw flaengar ac ysbrydoledig”, mae ei gorchestion yn cynnwys:
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Rwyf wrth fy modd bod cyfraniad eithriadol Marcia ym maes plismona wedi cael ei gydnabod. Mae'n gwbl haeddiannol! Rwy'n hapus iawn drosti, ac rwyf i – ynghyd â gweddill #TîmHDC – yn falch iawn o bopeth y mae wedi llwyddo i'w wneud i'w hun, ar gyfer plismona, ac ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.”