Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:34 26/05/2022
Ddydd Gwener, 20 Mai, daeth cyn swyddogion Heddlu Bwrdeistref Abertawe ynghyd am aduniad yng Nghlwb Golff Treforys yn Abertawe. Roedd dros 60 o westeion yn bresennol i ddathlu heddlu blaenorol Abertawe, a wasanaethodd rhwng 1836 a 1969 pan unwyd heddluoedd de Cymru.
Agorwyd y digwyddiad gan gyn swyddog heddlu Abertawe a Heddlu De Cymru, Leighton Jenkins, a siaradodd am hanes plismona yn Abertawe, gan roi'r cyfle i'r rhai a oedd yn bresennol rannu straeon a hel atgofion am eu dyddiau fel swyddogion heddlu. Dywedodd Leighton, a ymunodd â heddlu Abertawe fel Cadet yn 1958, wrthym:
“Mae llawer o'r cyn-blismyn yn cwrdd am sgwrs dros goffi – ond mae'n anodd iawn cael pawb ynghyd o dan un to. Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig iawn, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn cwrdd fel hyn.”
Ffrindiau a chyn-gydweithwyr yn oedi am lun.
Ychwanegodd yr Uwch-arolygydd Steve Jones, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad ar ran Heddlu De Cymru:
“Mae'n wych cael bod yma heddiw, yn enwedig gan mai fy nhad oedd Cwnstabl Heddlu Bwrdeistref Abertawe. Mae wedi bod yn bleser gweld hen ffrindiau a chyn-gydweithwyr a gwrando ar eu straeon o'u dyddiau yn y swydd.
Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb, felly mae'n braf iawn gweld cymaint o ffrindiau'n dod ynghyd unwaith eto i rannu eu hatgofion o blismona yn Abertawe. Ni fydd hanes Heddlu Bwrdeistref Abertawe byth yn mynd yn angof. Rwy'n aml yn edrych ar y placiau yng Ngorsaf Heddlu Ganolog newydd Abertawe sy'n talu teyrnged i'r swyddogion a gollodd eu bywydau yn ystod y ddau Ryfel Byd.”
Yr Uwch-arolygydd Steve Jones (chwith pellaf) gyda phwyllgor trefnu'r digwyddiad.
Crëwyd rhaglen ar gyfer yr achlysur sy'n nodi hanes cryno plismona yn Abertawe ac yn cynnwys lluniau o blismona drwy'r oesoedd. Gellir ei gweld yma.