Stamp amser presennol: 08/02/23 14:42:04
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Cynllun Gweithredu Hil yr Heddlu – Gwella plismona ar gyfer pobl ddu

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

08:45 24/05/2022

Mae Heddlu De Cymru yn llwyr gefnogi Cynllun Gweithredu Hil cenedlaethol newydd yr Heddlu sy'n cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae'r cynllun yn nodi nifer o argymhellion er mwyn helpu i ddatblygu gwasanaeth heddlu gwrth-hiliol ac yn cynnwys nifer o ymrwymiadau i sicrhau na chaiff hiliaeth ei goddef ym maes plismona a bod swyddogion a staff yn deall hanes plismona pobl a chymunedau du, ac i feithrin gweithlu mwy cynrychioliadol, sicrhau bod mwy o gymunedau du yn ymwneud â'r broses blismona a gwella'r cymorth a roddir i bobl ddu sy'n ddioddefwyr troseddau.  

Er bod Heddlu De Cymru yn croesawu'r cynllun ac yn gwbl ymrwymedig i'w roi ar waith yn lleol, mae llawer o agweddau'r cynllun yn feysydd y mae'r heddlu eisoes wedi dangos ymrwymiad iddynt dros flynyddoedd lawer, gan gynnwys meithrin gweithlu mwy cynrychioliadol a gweithio gyda'r gymuned ddu ar faterion fel anghymesuredd wrth ddefnyddio pwerau'r heddlu.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:

“Nod y cynllun gweithredu a gyhoeddir heddiw yw mynd i'r afael â gwahaniaethau ar sail hil sy'n effeithio ar bobl ddu ym maes plismona, a welir ar sawl ffurf, a thrawsffurfio etifeddiaeth o ddiffyg ymddiriedaeth mewn plismona.

“Mae cyfreithlondeb ac effeithiolrwydd y gwaith o blismona cymunedau De Cymru yn seiliedig ar gydberthnasau rhwng yr heddlu a'r cyhoedd ac rwy'n derbyn bod heriau yn gysylltiedig â'n cydberthynas â phobl ddu. Dylai pob un o'n cymunedau ymddiried yn llwyr ynom ond mae'r data yn nodi bod lefelau ymddiriedaeth a hyder llawer is ymhlith rhai pobl ddu a bod yna wahaniaethau ar sail hil na allwn eu hesbonio'n llawn ond rydym yn gweithio'n galed i'w deall a'u gwella.

“Mae cyffredinrwydd hiliaeth mewn cymdeithas yn ddiymwad a rhaid rhoi terfyn ar agweddau hiliol ffiaidd rhai pobl yn ein cymunedau.

“Yn ne Cymru, rydym wedi gwneud ymdrech wirioneddol i fynd i'r afael â rhai o'r materion hirsefydledig hyn. Er enghraifft, mae ein hymrwymiad i greu gweithlu cynrychioliadol wedi bod ar waith ers wyth mlynedd ar ffurf tîm dynodedig sy'n ymgymryd â gwaith recriwtio gweithredu cadarnhaol ac sy'n hwyluso rhaglen datblygu arweinyddiaeth sydd ar gael i bob aelod ethnig lleiafrifol o staff. Mae wedi bod yn her ond rydym yn gweithio'n galed i groesawu mwy o bobl ddu a phobl ethnig leiafrifol drwy ein drysau.

“O ran y defnydd o bwerau'r heddlu, mae'r gwaith rydym wedi'i wneud eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar ein cyfraddau anghymesuredd ond mae'n ffaith bod y defnydd o bwerau stopio a chwilio yn cael effaith anghymesur ar gymunedau pobl ddu. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i weithio'n galed i ddeall hyn a dod o hyd i ffyrdd eraill o fynd i'r afael â'r mater mewn ffordd ystyrlon ac effeithiol.  Mae ein cyfraddau anghymesuredd yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU ac wedi parhau i ostwng dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Mae pawb yn Heddlu De Cymru yn falch o blismona ardal mor fodern ac amlddiwylliannol sydd â thraddodiad hir o gymunedau cryf ac amrywiol. Fel sefydliad, rydym wedi gwneud, a byddwn yn parhau i wneud buddsoddiadau sylweddol mewn hyfforddiant ac addysg, gan gynnwys hyfforddiant ym meysydd amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant, er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwasanaeth o'r safon orau bosibl, bod ein swyddogion a'n staff yn deall pynciau fel gwahaniaethau ar sail hil, braint pobl wyn ac anghymesuredd a'n bod yn cynnal sgyrsiau am yr hyn y maent yn ei olygu i'n cymunedau.  Fel heddlu, rydym wrthi'n gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar Gynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hil Llywodraeth Cymru i greu Cymru wrth-hiliol.

“Fel Prif Gwnstabl, rwyf wedi nodi'n glir na fyddaf yn goddef unrhyw fath o aflonyddu nac ymddygiad amhriodol yn y gweithlu, gan gynnwys hiliaeth. Does dim lle yn y gwasanaeth i unrhyw un nad yw ei gydweithwyr yn ymddiried ynddo nac unrhyw un sy'n tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd mewn plismona. Rydym yn cyflogi dros 5,000 o bobl ac yn ymdrin â thros 400,000 o ddigwyddiadau bob blwyddyn, a gwn fod y mwyafrif helaeth o'r bobl hynny yn gweithio'n ddiflino ac yn ymdrechu i wasanaethu eu cymunedau gyda gonestrwydd ac uniondeb, gan ddangos ymddygiad proffesiynol o'r safon uchaf bosibl bob amser.”

Mwy:Cynllun Gweithredu Hil cenedlaethol

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.