Stamp amser presennol: 08/07/25 03:24:46
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carchar i ddyn o Ben-y-bont ar Ogwr a gam-driniodd ferch ifanc yn rhywiol ac a fu ar ffo

Cynnwys y prif erthygl

Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 16:02 28/05/22

Gwnaeth cam-driniwr osgoi cael ei ddal am 20 mlynedd cyn cael ei arestio pan laniodd yn y DU y llynedd.

Mae rheibiwr rhywiol o Ben-y-bont ar Ogwr a gam-driniodd ferch ifanc am dair blynedd ar ddiwedd y 1990au wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu a barodd ddau ddegawd bron.

Roedd David Carey Williams, 58 oed, wedi bod ar ffo ers 20 mlynedd cyn iddo gael ei arestio ym Maes Awyr Heathrow ym mis Hydref 2021.

Roedd yn bwriadu dychwelyd i'r DU yn ddisylw ond roedd swyddogion Heddlu De Cymru yn gwneud eu cynlluniau eu hunain i gyfarfod ag ef yn y maes awyr wrth iddo lanio.

Roedd Williams wedi ffoi o'r DU yn 2000 ar ôl dod i wybod bod ei ddioddefwr wedi cael ei chyfweld gan yr heddlu. Yn fuan ar ôl hynny, canfu swyddogion ei gar yn y Rhws a gwnaethant gadarnhau ei fod wedi mynd ar awyren i Lanzarote.

Lansiwyd Ymgyrch Enigma i ddod o hyd iddo ac, yn 2013, daeth swyddogion yn ymwybodol ei fod rywle yn Sri Lanka - roeddent yn gweithio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y Swyddfa Dramor ac awdurdodau Sri Lanka i ganfod ble yn union roedd Williams a'i estraddodi.

Nid oedd Williams yn gwybod bod yr heddlu yn gweithio gyda'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y Gwasanaeth Mewnfudo nac awdurddodau Sri Lanka i ddifetha ei gynlluniau i ddychwelyd i'r DU yn ddisylw ym mis Hydref 2021. Pan gafodd ei arestio, canfuwyd bod ganddo dystiolaeth allweddol yn ei feddiant a oedd yn ymwneud â'r drosedd wreiddiol dros 20 mlynedd yn ôl.

Yn ystod y tair blynedd o gamdriniaeth, gwnaeth gyffwrdd yn rhywiol â'i ddioddefwr bregus ac ymosod arni'n anweddus ar sawl achlysur tra roedd rhwng 10 a 13 oed.

Cafodd ei gyhuddo o 10 achos o weithgarwch rhywiol â phlentyn a phlediodd yn euog i wyth ohonynt. Ddydd Gwener (27 Mai) cafodd ei garcharu am 12 mlynedd a thri mis yn Llys y Goron Caerdydd. Bydd yn treulio hanner y ddedfryd honno yn y carchar ac yn cael Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol ar ôl cael ei ryddhau.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Mark O’Shea, o Dîm Troseddau Mawr Heddlu De Cymru:

“Hoffwn dalu teyrnged i'r dioddefwr yn yr achos hwn a gafodd ei cham-drin yn erchyll gan Williams pan oedd yn blentyn. Mae wedi dioddef dau ddegawd o loes a thrallod gan wybod bod ei cham-driniwr yn osgoi cyfiawnder tra roedd ar ffo dramor.

“Mae wedi cefnogi ymchwiliad yr heddlu yn ystod y blynyddoedd hir y bu'n aros am gyfiawnder ac mae'r ffaith iddi fod yn barod i wynebu Williams yn y llys, a rhoi tystiolaeth uniongyrchol o'r gamdriniaeth a ddioddefodd yn blentyn, yn dyst i'w dewrder. Roedd cryfder ei thystiolaeth mor gymhellol fel nad oedd gan Williams unrhyw ddewis ond pledio'n euog i'r mwyafrif o'r cyhuddiadau.

“A hithau bellach yn ei 30au, bu'n rhaid iddi aros yn rhy hir am gyfiawnder oherwydd y ffordd sinigaidd, lwfr a chynlluniedig roedd Williams wedi ffoi o'r DU. Ond rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd heddiw yn ei galluogi i droi ei chefn ar y cyfnod trawmatig hwn a symud ymlaen â'i bywyd.

“Hoffwn dalu teyrnged i daerni ein swyddogion sydd wedi gweithio'n ddiflino i ddod o hyd i Williams, gan gredu bob amser y byddent yn ei ddal a'i ddwyn o flaen ei well ryw ddydd – mae'n enghraifft wych o waith ditectif dygn a phenderfynol. Hoffwn hefyd ddiolch i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y Swyddfa Dramor, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Gwasanaeth Mewnfudo am eu cymorth i sicrhau ei fod yn cael ei arestio.

“Dylai unrhyw un sydd wedi cael ei gam-drin yn ystod ei oes roi gwybod am hynny – nid yw byth yn rhy hwyr. Byddwn yn gwneud popeth posibl i gefnogi'r unigolyn ac i ddod â'r troseddwr o flaen ei well, ni waeth pa mor hir y bydd yn ei gymryd.”

 

DavidCareyWilliams.jpg

David Carey Williams.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.