Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Roedd Michael Francis, 33 oed o'r Hendy, yn gyrru Volkswagen Scirocco glas ar hyd yr A48 yn ystod oriau mân y bore ar 12 Awst 2021. Roedd menyw 20 oed yn y sedd flaen.
Roedd Francis yn gyrru'n gyflym iawn o dan ddylanwad cyffuriau wrth fynd i mewn i bentref Pont-lliw. Cyrhaeddodd gyflymdra o 75mya mewn ardal 30 mya, cyn gyrru'n gyflym o amgylch cornel ar ochr anghywir y ffordd a gwrthdaro â phostyn lamp ac yna coeden.
Llwyddodd Francis i adael y car gyda mân anafiadau, ond roedd gan ei deithiwr yr hyn a ddisgrifiwyd gan swyddogion plismona'r ffordd fel yr anafiadau gwaethaf y maen nhw wedi'u gweld mewn gwrthdrawiad lle mae'r dioddefwr wedi byw.
Mae'n rhaid i'r dioddefwr fyw nawr gyda'r anafiadau hyn sydd wedi newid ei bywyd ac addasu ei ffordd o fyw.
Heddiw, dedfrydwyd Francis i dair blynedd a chwe mis yn y carchar a chafodd ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd a naw mis yn Llys y Goron Abertawe ar ôl iddo bledio'n euog.
Gan siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Ringyll Lee Christer:
“Yn dilyn gweithredoedd difeddwl Michael Francis ar y diwrnod hwnnw, mae menyw ifanc wedi cael anafiadau ofnadwy sydd wedi newid ei bywyd.
“Oni bai am ymateb cyflym y swyddogion a'r gwasanaethau brys ar y safle, a'r gofal meddygol arbenigol a gafodd gan staff yn Ysbyty Athrofaol Cymru, nid wyf yn siŵr a fyddai wedi byw.
“Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi cyfle i Francis fyfyrio ar ddifrifoldeb yr hyn a wnaeth.
“Rwyf hefyd yn gobeithio y bydd yn anfon neges gref at yrwyr eraill ac yn eu hannog i feddwl pan fyddant y tu ôl i'r llyw. Goryrru a gyrru o dan ddylanwad cyffuriau yw dau o'r prif ffactorau sy'n achosi gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol yng Nghymru, a phan fydd ceir yn cael eu gyrru mewn ffordd fyrbwyll ac anghyfrifol, gallant fod yn arfau marwol, fel y mae'r achos trasig hwn wedi'i brofi.”