Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r dyn a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd tua 7.25pm nos Fawrth 3 Mai yng Nghwmrhydyceirw wedi cael ei enwi fel Syed Asim Ali Shah, 26 oed, o Bort Talbot.
Mae teulu Mr Shah wedi talu'r deyrnged ganlynol:
“Yn anffodus, bu farw Mr Syed Asim Ali Shah, y mae pawb yn ei adnabod fel ‘Asim’, mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd pan oedd yn reidio ei feic modur Kawasaki Zx900.
“Mae'n gadael ei bartner annwyl Ocean a'u merch blwydd oed Iyla. Roedd Asim yn caru'r ddwy yn fawr iawn.
“Mae'n gadael ei rieni cariadus, Nigar a Qadim Shah, a'i fodryb, Parveen. Ei frodyr arbennig, Munawar, Afaq, Aamir ac Azan, ei chwaer-yng-nghyfraith Fareah a'i ffrind gydol oes Kawsar Hussain.
“Bydd ei deulu a'i grŵp cyfeillgarwch enfawr a chymuned gyfan Mosg Port Talbot yn gweld ei eisiau yn ofnadwy. Bydd colled fawr ar ei ôl, a gweddïwn am nerth i ddod trwy'r cyfnod erchyll hwn.
“Asim oedd yr unigolyn mwyaf caredig a chariadus y byddai unrhyw un yn cwrdd ag ef. Roedd yn ofalgar, yn ddoniol ac yn llawn egni. Roedd ganddo ffordd i wneud pawb i wenu a chwerthin bob amser.
- roedd yn gymeriad hollol unigryw
- roedd yn gawr addfwyn
- roedd yn benderfynol ac yn meddu ar ewyllys gref
- roedd yn hapus a bodlon ei fyd drwy'r amser ni waeth beth oedd y sefyllfa.
- roedd yn unigolyn heintus na fyddech chi fyth yn ei anghofio ar ôl cyfarfod ag ef.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 7:25pm nos Fawrth 3 Mai, 2022 ar Heol Maes Eglwys, Cwmrhydyceirw pan fu Kawasaki ZX900 gwyn ac Audi A3 du mewn gwrthdrawiad.
Bu'r ffordd ar gau am sawl awr er mwyn i'r gwaith archwilio gael ei wneud.
Mae'r swyddogion yn awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, unrhyw un â chamera dashfwrdd a ffilmiodd y digwyddiad neu unrhyw un a welodd y ffordd roedd y naill gerbyd a'r llall yn cael eu gyrru cyn y gwrthdrawiad.
Cysylltwch â ni drwy un o’r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad: 2200146630.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101