Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd tri dyn, a oedd yn rhan o Grŵp Troseddu Cyfundrefnol a werthodd gyffuriau anghyfreithlon, eu carcharu heddiw am gyfanswm o 23 o flynyddoedd ar ôl ymchwiliad 18 mis o hyd.
Ymchwiliad a gynhaliwyd gan Uned Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol Heddlu De Cymru yw Ymgyrch Formby, a hynny i weithgareddau masnachu mewn cyffuriau Daniel Baker a'i grŵp troseddau cyfundrefnol.
Roedd Daniel Baker, 30 oed o Sandfields, Port Talbot yn bennaeth ar y grŵp troseddu cyfundrefnol a oedd yn masnachu Cocên Dosbarth A a chyffur Cetamin Dosbarth B drwy ardal De Cymru ac yn ardal Swydd Rydychen yn Lloegr. Roedd ganddo gysylltiadau â Swydd Rydychen trwy ei gyflogaeth gyfreithlon â chwmni sgaffaldiau.
Cafodd ei arestio yn ei gartref ar 18 Awst 2021 lle cafodd ei ganfod ym meddiant swm sylweddol o gyffur Cetamin Dosbarth B, arf tanio a mwy na £44,000 mewn arian parod.
Datgelodd yr ymchwiliad fod Baker wedi bod yn cyflenwi Cocên ers 2016 o leiaf ac roedd wedi bod yn defnyddio unigolion amrywiol i gasglu dyledion ar ei ran, casglu a chludo'r cyffuriau iddo, ac unigolion eraill i gyflenwi Cocên a Chetamin ar ei ran.
Profwyd bod Baker a'i Grŵp Troseddu Cyfundrefnol wedi cyflenwi 1kg o gocên rhwng 2015 a 2018 a 9kg pellach rhwng mis Mai 2021 a mis Awst 2021. Byddai gan y 10 cilogram o gocên werth stryd amcangyfrifedig o £1.1 miliwn i £1.4 miliwn.
Enwau'r cyd-ddiffynyddion a gafwyd yn euog yn y cynllwyn i gyflenwi cocên gyda Daniel Baker oedd Steven Hughes, 46 oed o Abercynon a Mark Lapper, 41 oed o East Hanney, Swydd Rydychen.
Ymddangosodd y tri yn Llys y Goron Abertawe heddiw (dydd Llun 9 Mai 2022).
Plediodd Daniel Baker yn euog i Gynllwynio i Gyflenwi Cocên Dosbarth A, bod ym Meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi cyffur Cetamin Dosbarth B a bod ym meddiant arf tanio s.5. Cafodd Baker ei ddedfrydu i 12 mlynedd yn y carchar.
Plediodd Steven Hughes yn euog i Gynllwynio i Gyflenwi Cocên Dosbarth A a bod ym meddiant Canabis Dosbarth B. Cafodd Hughes ei ddedfrydu i 8 mlynedd yn y carchar.
Plediodd Mark Lapper yn euog i Gynllwynio i Gyflenwi Cocên Dosbarth A. Cafodd Lapper ei ddedfrydu i 3 blynedd yn y carchar.
Mae gweithrediadau Deddf Enillion Troseddau bellach yn mynd rhagddynt mewn perthynas â'r unigolion hyn er mwyn adennill asedau a gafwyd o ganlyniad i'w gweithgareddau masnachu mewn cyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Russ Jenkins o Uned Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol yr Heddlu:
“Mae Grwpiau Troseddu Cyfundrefnol fel y rhain wedi parhau i weithredu yn ein cymunedau lleol ac wedi cynnal eu gweithgareddau yn ddigywilydd ac wedi credu eu bod y tu hwnt i'r gyfraith.
“Mae ein hymchwilwyr wedi gweithio'n ddiflino, ac yn parhau i ddefnyddio'r holl gyfleoedd sydd ar gael, i ymchwilio i'r troseddau hyn a llwyddo i erlyn y rhai sydd ynghlwm.
“Mae llwyddiant parhaus y gweithrediadau hyn yn rhoi sicrwydd a hyder i gymunedau De Cymru.”