Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae menyw a fu farw ar ôl i'r car Citroen Flare glas roedd yn ei yrru fod mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd un cerbyd ym Merthyr Tudful wedi cael ei henwi fel Janis Monger, 72 oed, o Gefn Coed, Merthyr Tudful.
Mae ei theulu wedi rhyddhau'r datganiad canlynol yn talu teyrnged iddi:
“Er cof am Janis Monger; gwraig, mam, mam-gu, mam yng nghyfraith a ffrind annwyl a pherson cymunedol a oedd yn cael ei hedmygu gan bawb yng Nghefn Coed.
“Rydym ni, fel teulu, yn torri ein calonnau ar ôl colli'r fath fodel rôl ac arweinydd i'r teulu. Rydym yn diolch i bawb am eu geiriau caredig a'u cydymdeimlad ar yr adeg drist iawn hon.
“Cyffyrddodd Janis â chalonnau llawer o bobl dros y blynyddoedd a bydd llawer yn gweld ei heisiau'n fawr.”
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 10.53am ddydd Mercher 19 Ionawr ar Brecon Road wrth y gyffordd â Gurnos Road ym Merthyr Tudful.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth neu ddeunydd fideo o gamera dashfwrdd a allai helpu gyda'r ymchwiliad, cysylltwch â Heddlu De Cymru drwy un o'r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu cyfeirnod 2200020282.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn 101