Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:32 07/01/2022
Ni allwn ddychmygu pa mor anodd y mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod i deulu Mohamud Hassan na'r poen a'r galar y maent wedi'u dioddef ers ei farwolaeth.
Mae'r heddlu yn parhau i gydweithredu'n llawn ag ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ac wedi darparu gwybodaeth a deunyddiau, gan gynnwys deunydd fideo camera a wisgir ar y corff a deunydd teledu cylch cyfyng.
Rydym yn cydnabod yr effaith y mae marwolaeth Mr Hassan wedi ei chael ar ei deulu, ei ffrindiau a'r gymuned ehangach. Rydym yn parhau i feddwl amdanynt ac yn cynnig ein cydymdeimlad iddynt.