Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 67 oed wedi pledio'n euog i dreisio dieithryn yng Nghaerdydd bron i 42 o flynyddoedd yn ôl.
Mae ei ble yn dilyn ymchwiliad dan arweiniad Uned Adolygu Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru i ddigwyddiad yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd ym mis Awst 1980.
Yn sgil datblygiadau mewn profion DNA, bu modd i arbenigwyr ailarchwilio dillad y dioddefwr yn 2019 a pharu'r canlyniadau â Roland Long.
Cafodd Long ei arestio ar 15 Medi 2020 a'i gyhuddo mewn cyfeiriad ym Mryste ar 3 Awst, 2021.
Bydd Long yn ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd i gael ei ddedfrydu ar 18 Chwefror, 2022.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Patrick Catto, cyn-Bennaeth Uned Adolygu Troseddau Arbenigol Heddlu De Cymru:
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ymchwilio i droseddau difrifol heb eu canfod ac yn ailedrych yn aml ar achosion wrth i wyddoniaeth fforensig ddatblygu.
“Mae ple heddiw'n dangos sut y gall yr ymrwymiad hwn esgor ar ganlyniadau i ddioddefwyr a dod â throseddwyr o flaen eu gwell.
“Mae help a chefnogaeth ar gael i bob dioddefwr trais rhywiol, a byddwn yn annog pob dioddefwr; ni waeth pryd y cafodd y drosedd ei chyflawni, i roi gwybod amdani.”
Ers 2019, mae'r uned a elwir yn Ymgyrch Dudley, wedi bod yn ymchwilio i droseddau rhywiol difrifol heb eu canfod ledled De Cymru sy'n mynd yn ôl sawl degawd.
Mae'r uned wedi cael ei chydnabod yn genedlaethol ac mae wedi defnyddio technegau arloesol i ailagor hen achosion yn y gorffennol.