Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Ashmeet Soni, 28 oed, o Gaerdydd, wedi cael dedfryd estynedig o ddeng mlynedd ar ôl cael ei ganfod yn euog o ymosod yn rhywiol ar dair menyw.
Ymosododd Soni ar y menywod mewn tair stryd wahanol yn ardal y Rhath yng Nghaerdydd ar 27 Mehefin, 4 Gorffennaf a 5 Gorffennaf y llynedd.
Roedd un o'r menywod gyda'i phlant ifanc pan ddigwyddodd yr ymosodiad.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl, Gemma Richards o Heddlu De Cymru: “Mae ymosodiadau gan ddieithriaid yn hynod anarferol yng Nghaerdydd ond roedd Ashmeet Soni yn unigolyn peryglus iawn.
Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel wrth gerdded o gwmpas ein dinas a phan fydd pethau fel hyn yn digwydd, byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddal y sawl sy'n gyfrifol.”
Roedd ditectifs yn ymchwilio i ddau ymosodiad rhywiol ar 27 Mehefin a 4 Gorffennaf, pan atebwyd galwad 999 tua 5pm ddydd Llun, 5 Gorffennaf, ynghylch trydydd ymosodiad rhywiol ar Heol Casnewydd.
Gwnaeth y disgrifiad o'r unigolyn dan amheuaeth a natur y drosedd gyfateb â'r ymosodiadau blaenorol.
Aeth nifer sylweddol o swyddogion i'r ardal a chan ddefnyddio ffotograff a dynnwyd yn ddewr gan y ddioddefwraig ar ei ffôn symudol, bu modd iddynt adnabod yr unigolyn dan amheuaeth a chafodd Soni ei arestio o fewn awr.
Ar ôl iddo gael ei arestio, cynhaliwyd ymchwiliad trylwyr a helaeth, a oedd yn cynnwys olrhain ei symudiadau ar deledu cylch cyfyng, er mwyn sicrhau y gellid ei ddwyn o flaen ei well.
Gwadodd bob trosedd ond, ar ôl treial wythnos o hyd yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd 2021, fe'i cafwyd yn euog o 7 ymosodiad rhywiol ac 1 ymosodiad rhywiol drwy dreiddiad.
Roedd Soni yn ôl yn y llys i gael ei ddedfrydu ddoe (dydd Mawrth, 25 Ionawr)
Ychwanegodd DC Richards: “Bu'r effaith ar y tair menyw yn ddinistriol ac maen nhw wedi bod yn hynod ddewr drwy'r profiad hwn.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd sylweddol hon o garchar yn dod â rhyw fath o ddiweddglo iddynt ac yn eu galluogi i adfer eu hyder.”
Bydd yr ymchwiliad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiogelu menywod rhag trais, a chadw ein prifddinas yn ddiogel.
Mae mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched wedi bod yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru ers tro, ac rydym yn cydnabod bod mwy o bryder nag erioed ynghylch diogelwch personol a thrais.