Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Darryl Curtis, 40, o Dreorci, a Keiron Walsh, 21, o Gasnewydd, eu cyhuddo o fynd ar yr ardal chwarae heb awdurdod na rheswm cyfreithlon, yn groes i Ddeddf Pêl-droed (Troseddau) 1991.
Aeth y ddau ddyn ar y cae ar adegau gwahanol yn ystod y gêm rhwng Dinas Caerdydd a Brighton a Hove Albion a oedd yn rhan o bencampwriaeth Cwpan Carabao nos Fawrth, 24 Awst 2021.
O ganlyniad, bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r chwarae wrth i'r dyfarnwr oedi'r gêm.
Ymddangosodd Walsh gerbron Llys Ynadon Caerdydd ddydd Mawrth, 18 Ionawr 2022, ac ymddangosodd Curtis yn yr un llys ar 20 Rhagfyr 2021.
Plediodd y ddau ddyn yn euog. Cafodd Walsh ddirwy o £160 ynghyd â gwerth £65 o gostau, a chafodd Curtis ddirwy o £120 ynghyd â gwerth £85 o gostau. Cawsant hefyd orchmynion sy'n eu gwahardd rhag mynd i unrhyw gêm bêl-droed wedi'i rheoleiddio yn y Deyrnas Unedig yn ystod y tair blynedd nesaf.
Aeth bachgen 15 oed ar y cae yn ystod y gêm hefyd, ac ymdriniwyd ag ef drwy raglen ddargyfeirio, ymyrraeth â'r rhieni a gwaharddiad gan y clwb.
Dywedodd PC Christian Evans o Heddlu De Cymru:
“Mae'r mwyafrif helaeth o gefnogwyr pêl-droed Caerdydd yn ymddwyn yn dda ac yn frwd iawn dros gefnogi eu tîm.
“Fodd bynnag, os oes tystiolaeth o anrhefn neu drais yn gysylltiedig â phêl-droed, rydym bob amser yn ceisio erlyn y rheini sy'n gyfrifol er mwyn cymryd y camau priodol.
“Rwy'n gobeithio y bydd y canlyniad llys hwn yn cyfleu neges glir na chaiff ymddygiad tebyg ei oddef yn Stadiwm Dinas Caerdydd.”
Fel rhan o'r gorchmynion gwahardd, bydd yn ofynnol hefyd i Walsh a Curtis ildio eu pasbortau i'r heddlu pan fydd Tîm Pêl-droed Cenedlaethol Cymru yn chwarae dramor.
Rhoddodd Wayne Nash, Rheolwr Gweithrediadau Dinas Caerdydd, ddatganiad effaith i'r llys yn amlinellu goblygiadau ymddygiad o'r fath.
Dywedodd:
“Fel clwb, mae dyletswydd arnom i ddarparu amgylchedd diogel a chroesawgar i bawb sy'n dod i ddigwyddiadau ac yn gweithio ynddynt, ac fel y cyfryw, mae angen i'r ardal chwarae fod yn lle diogel i'r chwaraewyr, lle y gallant wneud eu gwaith heb ofn.
“Os na allwn ddarparu'r amgylchedd diogel hwn, yna mae eu diogelwch yn y fantol, oherwydd unrhyw funud, gallai rhywun fynd ar y cae chwarae neu i ardal nad oes ganddo'r hawl i fynd iddi ac ymosod ar chwaraewr neu aelod o'r staff.
“Gallem wynebu dirwy o filoedd o bunnoedd gan y Gymdeithas Bêl-droed, a hynny er gwaethaf enw ardderchog Stadiwm Dinas Caerdydd am ddiogelwch.
“Mae'n anodd i Stiwardiaid y Clwb reoli'r math hwn o ymddygiad, ac ni ddangosodd yr unigolion dan sylw unrhyw barch tuag at y stiwardiaid hynny.”