Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
09:27 24/01/2022
Mae'r fenyw ifanc 18 oed a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd yn ystod oriau mân y bore ddydd Sul, wedi cael ei henwi fel Chantelle Thomas o Odre'r Graig.
Bu farw Chantelle pan wnaeth y car roedd hi'n teithio ynddo adael y ffordd wrth deithio ar hyd yr A4067 o Abertawe tuag at Odre'r Graig.
Mae ei theulu wedi talu teyrnged iddi, gan ddweud:
“Rydym ni fel teulu wedi ein llorio'n llwyr o golli ein tywysoges Chantelle, roedd hi'n ferch, yn chwaer ac yn wyres annwyl iawn ac roedd pawb a oedd yn ei hadnabod yn ei charu.
Cysga'n dawel fy nhywysoges.”
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ychydig cyn 1.30am ddydd Sul, 23 Ionawr.
Gadawodd y Citroen C1 gwyn oedd ynghlwm â'r gwrthdrawiad un cerbyd, y ffordd wrth deithio ar hyd yr A4067 o Abertawe tuag at Odre'r Graig.
Mae menyw ifanc 18 oed arall yn dal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn cael triniaeth am anafiadau nad ydynt yn peryglu ei bywyd.
Mae swyddogion yn parhau i apelio ar i unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst neu sydd â fideo o gamera dashfwrdd o'r digwyddiad neu o'r ffordd roedd y Citroen C1 gwyn yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â Heddlu De Cymru.
Cysylltwch â ni drwy un o’r ffyrdd canlynol, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2200024693.