Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Joseph D'Agnilli, 71 oed, wedi cael wyth mlynedd o garchar am gam-drin plant.
Cafodd D'Agnilli, o Ddinas Powys, ei ddyfarnu'n euog o wyth cyhuddiad gan gynnwys un cyhuddiad o anwedduster â phlentyn a saith cyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar blentyn o dan 13 oed.
Cyflawnodd D'Agnilli'r troseddau rhwng y 1980au a chanol y 2010au.
Ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd heddiw (dydd Iau 13 Ionawr) a chafodd ei roi ar y rhestr Troseddwyr Rhyw Cofrestredig am gyfnod amhenodol hefyd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Gareth Holmes:
"Rydym yn trin pob cyhuddiad o drais rhywiol o ddifrif. Nid yw byth, byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
"Mae'r holl ddioddefwyr yn yr achos hwn wedi dangos cryfder a dewrder anhygoel wrth roi gwybod am y troseddau hyn a rhoi tystiolaeth yn y treial. Maent wedi bod yn ysbrydoliaeth.
"Rydym yn gobeithio y bydd y ffaith bod Joseph D'Agnilli wedi cael dedfryd o garchar sylweddol yn rhoi rhywfaint o ryddhad iddynt, ac ymdeimlad bod cyfiawnder wedi cael ei weinyddu.
"Fodd bynnag, ni fyddai'r canlyniad hwn wedi bod yn bosibl heb waith caled y Ditectif Gwnstabl Phil Colston, a fu farw y llynedd er mawr tristwch. Arweiniodd Phil yr ymchwiliad hwn a gweithiodd yn agos gyda'r dioddefwyr a phartneriaid er mwyn dwyn y cyhuddiadau. Rwy'n gwybod bod y dioddefwyr a'r tîm cyfan yn ddiolchgar am ei ddyfalbarhad a'i ymrwymiad ac mae'r canlyniad hwn yn golygu bod ei waddol hyd yn oed yn fwy.
"Mae help a chefnogaeth ar gael i bawb sy'n dioddef trais rhywiol, a byddem yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.
Ewch i'n gwefan er mwyn cael gwybod sut mae Heddlu De Cymru yn helpu dioddefwyr achosion o drais ac ymosodiad rhywiol gyda chymorth gan ein sefydliadau partner a grwpiau elusennol: Cefnogaeth i ddioddefwyr achosion o drais ac ymosodiad rhywiol | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.