Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae troseddwr rhyw wedi cael dedfryd estynedig o 13 mlynedd yn dilyn ymgyrch ar sail cudd-wybodaeth gan Tarian, sef Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol De Cymru.
Ddydd Sadwrn, 10 Gorffennaf 2021, teithiodd Mark Lenthall, 53 oed, sydd o Kingston Upon Hull, 250 milltir o Hull i Gaerffili gyda'r bwriad o gyflawni troseddau rhyw yn erbyn plentyn. O ganlyniad i'r ymgyrch ar sail cuddwybodaeth gan dditectifs Tarian, cafodd Lenthall ei arestio a'i gadw yn y ddalfa hyd nes iddo ymddangos o flaen y Llys heddiw.
Roedd Lenthall eisoes wedi ei gofrestru fel troseddwr rhyw ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog yn 2017 o greu delweddau anweddus o blant, meddu ar bornograffi eithafol ac ymgymryd â gweithgarwch rhywiol ym mhresenoldeb plentyn o dan 16 oed.
Plediodd Lenthall, a oedd hefyd yn destun gorchymyn atal niwed rhywiol, yn euog i'r holl droseddau yn ystod ei ymddangosiad cyntaf yn y Llys.
Heddiw (7 Ionawr), ymddangosodd Lenthall o flaen Llys y Goron Caerdydd a chafodd ddedfryd estynedig o 13 mlynedd, gan dreulio wyth ohonynt hynny yn y carchar. Cafodd ei roi ar y rhestr Troseddwyr Rhyw Cofrestredig am gyfnod amhenodol a chafodd orchymyn atal niwed rhywiol amhenodol.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dave Bancroft: “Mae amddiffyn plant a'u diogelu yn ein cymunedau yn flaenoriaeth amlwg i ni, waeth gan bwy neu o ble y daw'r bygythiad hwnnw.
“Teithiodd y dyn hwn tua 250 o filltiroedd gyda'r bwriad o gyflawni troseddau rhyw difrifol yn erbyn plentyn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth os na fyddem wedi gweithredu pan wnaethom, y byddai wedi bod yn berygl i blant ledled y DU.
“Mae Tarian yn ymrwymedig i fynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol, diogelu plant a dwyn y troseddwyr sy'n ceisio cam-drin plant o flaen eu gwell.
“Mae amddiffyn plant a'u diogelu yn ein cymunedau yn flaenoriaeth amlwg i ni, waeth gan bwy neu o ble y daw'r bygythiad hwnnw. Mae gorfodi'r gyfraith yn weithredol ledled y rhyngrwyd, a byddwn yn ymdrechu yn ddiddiwedd i ddod â'r rheiny sy'n defnyddio'r we i hwyluso eu cyfle i gam-drin plant o flaen eu gwell.
“Rwy'n annog unrhyw un a gafodd eu cam-drin yn rhywiol pan yn blentyn i roi gwybod i'w heddlu lleol drwy ffonio 101. Byddwn bob amser yn mynd ar drywydd honiadau o gam-drin, ni waeth pryd y gwnaethant ddigwydd. Gall dioddefwyr siarad yn gyfrinachol ag ymchwilwyr profiadol a gallwn hefyd eu helpu i gael mynediad at ystod o wasanaethau cymorth eraill.
“Os oes gennych bryderon am eich defnydd o'r rhyngrywd, neu am feddyliau neu ymddygiadau amhriodol tuag at blant, neu os ydych yn pryderu am y ffordd mae rhywun rydych yn ei adnabod yn ymddwyn pan fydd o gwmpas plant, neu'n bryderus am eu defnydd o'r rhyngrwyd, gall Sefydliad Lucy Faithfull roi cyngor am ddim, yn gwbl ddi-enw ac yn gyfrinachol i chi, neu cysylltwch â llinell gymorth Stop It Now! ar 0808 1000 900 i gael cyngor, cymorth a gwybodaeth.”