Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:29 07/01/2022
Mae Christopher George wedi cael ei garcharu am ddynladdiad Carl Chinnock, a fu farw ar ôl cael ei fwrw gan ei ymosodwr mewn maes parcio ym Mhorthcawl.
Ymddangosodd y dyn 27 oed o Heol-y-Berllan, y Pîl, yn Llys y Goron Caerdydd i gael ei ddedfrydu ddydd Gwener, 7 Ionawr ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o ddynladdiad gan reithgor nôl ym mis Rhagfyr (2021).
Roedd y diffynnydd wedi bod allan yn yfed gyda ffrindiau gyda'r nos ar 23 Mehefin (2021) ond gadawodd y grŵp ar ôl clywed gweiddi yn dod o gyfeiriad Maes Parcio Salt Lake ger glan môr Porthcawl.
Dywedodd ei ffrindiau iddynt ei weld yn bwrw Carl Chinnock gan beri iddo gwympo am yn ôl a tharo ei ben ar y llawr.
Rhedodd Christopher George o'r maes parcio a chael tacsi adref, gan adael ei ffrindiau yno i roi cymorth cyntaf i Carl Chinnock nes i ambiwlans gyrraedd. Ond bu farw ei ddioddefwr bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Yn dilyn y ddedfryd euog ym mis Rhagfyr, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark Lewis y gellid gweld o ymchwiliad yr heddlu ei bod yn amlwg bod Christopher George wedi bod yn yfed alcohol a chymryd cyffuriau a'i fod allan yn chwilio am drwbwl ar noson yr ymosodiad.
Christopher George