Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Richard Watkins, 43 oed, o Lynebwy, a oedd yn gyrru tryc agored, ei stopio gan swyddogion ar 26 Mai 2020, wedi iddo gael ei weld yn cwrdd â Daniel O’Hara, 47, o Orllewin Canolbarth Lloegr. Gwelodd swyddogion cudd y ddau yn cwrdd yn Rhosan ar Wy ac yn cyfnewid pecynnau.
Cafodd Watkins ei stopio gan swyddogion y diwrnod hwnnw a daethant o hyd i 3kg o gocên ym mlaen y car ar y llawr. Cafodd O’Hara ei stopio gan heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr ar yr M5, ger Birmingham, ychydig yn ddiweddarach, a daethpwyd o hyd i £89,980 o arian parod mewn bag yn ei gar. Arestiwyd y ddau a'u cludo i orsaf heddlu Pen-y-bont ar Ogwr.
Datgelodd ymchwiliadau gan Uned Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol yr Heddlu (FIOCU) bod John Paul Richards, 39 oed, o Aberpennar wedi bod yn defnyddio EncroChat; rhwydwaith wedi'i amgryptio a gaiff ei ddefnyddio gan droseddwyr i hwyluso'r broses o brynu cocên gan gyflenwr ymhellach i fyny'r gadwyn. Cludwyr oedd Watkins ac O’Hara a oedd yn gwneud y gwaith o gyfnewid y cyffuriau ar ran Richards a'r cyflenwr ymhellach i fyny'r gadwyn.
Daethpwyd i'r casgliad bod 10.5kg o gocên wedi cael ei gyfnewid rhwng Richards, Watkins ac O'Hara rhwng mis Ebrill a mis Mai 2020, a fyddai wedi bod â gwerth amcangyfrifedig rhwng £1.3 a £1.6 miliwn.
Roedd yr ymchwiliad, a gafodd ei enwi'n Ymgyrch Tuscana, yn ymgyrch gudd a oedd yn cael ei rhedeg gan Uned Cudd-wybodaeth a Throseddau Cyfundrefnol yr Heddlu yn 2020, mewn perthynas â chynllwyn i gyflenwi symiau enfawr o gyffuriau Dosbarth A i gang troseddau cyfundrefnol.
Dywedodd Swyddog yn yr Achos, y Ditectif Arolygydd Russell Jenkins:
“Gall cyffuriau anghyfreithlon beri gofid i'n cymunedau ac nid oes lle iddynt mewn cymdeithas. Byddwn yn parhau i gydweithio ag asiantaethau partner a heddluoedd eraill i ddwyn y rhai hynny y mae eu gweithgareddau troseddol yn amharu ar fywydau cymunedau de Cymru o flaen eu gwell.
“Rwy'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn cyfleu'r neges ein bod yn ymrwymedig i darfu ar y grwpiau troseddu cyfundrefnol a'u chwalu, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i waredu cyffuriau oddi ar y strydoedd.”
Cafodd y tri dyn eu dedfrydu heddiw (dydd Mercher 12 Hydref) yn Llys y Goron Caerdydd.
Cafodd Richard Watkins ei ddedfrydu i chwe blynedd a phedwar mis o garchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd Daniel O'Hara ei ddedfrydu i 10 mlynedd a thri mis o garchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Cafodd John Paul Richards ei ddedfrydu i 13 mlynedd a chwe mis o garchar am gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.