Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, mae Heddlu De Cymru wedi lansio Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a Lleihau Niwed 2022 – 2025, yn amlinellu'r hyn y mae'r Heddlu yn ei wneud i leihau ac atal yr effeithiau niweidiol y mae cyffuriau yn eu cael ar ein cymunedau.
Mae pob defnydd o gyffuriau yn peri gofid. Mae defnyddwyr cyffuriau yn datblygu eu goddefiad ac mae'r effaith ar eu bywydau yn mynd yn fwy. Mae angen ei atal ar gam cynnar.
Mae gwaith ymchwil yn dangos y gall defnydd estynedig gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant cyffredinol, ac y gall defnydd byrdymor gael canlyniadau angheuol.
Gwnaeth data cenedlaethol diweddar osod Heddlu De Cymru yn gyntaf allan o 43 o heddluoedd ledled y DU am leihau troseddau cyffuriau.
Ers 1 Ebrill eleni:
Mae Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a Lleihau Niwed 2022 – 2025 yn rhan o ymrwymiad yr Heddlu i fynd i'r afael ag achosion o fasnachu mewn cyffuriau a chyflenwi cyffuriau ledled De Cymru.
Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu cyfleoedd i ymyrryd yn gynnar, gan leihau niwed drwy dorri'r cylch caethiwed a mynd i'r afael â chyflenwi.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan: “Ers mis Ebrill eleni, rydym wedi arestio 962 o unigolion am droseddau sy'n ymwneud â masnachu mewn cyffuriau a meddu ar gyffuriau.
“Byddwn yn parhau i fynd ar ôl delwyr cyffuriau sy'n peri gofid drwy greu amgylchedd sydd, yn syml, yn anodd iawn iddynt weithredu ynddo.
“Mae cefnogaeth yn angenrheidiol i wella ansawdd bywyd pobl sy'n ddibynnol ar gyffuriau. Mae'r rheini sy'n gaeth i gyffuriau yn aml yn ddioddefwyr eu hunain, a dyna pam mae'n bwysig ein bod yn gweithio ar ddulliau newydd o weithredu er mwyn helpu i dorri'r cylch niwed.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu y Gwir Anrhydeddus Alun Michael:
“Mae'r strategaeth hon yn nodi'n glir iawn ein dull gweithredu o ran sut rydym yn bwriadu ymdrin â phla camddefnyddio cyffuriau yn ein cymunedau, yr effaith y mae'n ei chael ar y teuluoedd dan sylw a'r unigolion sy'n mwynhau'r budd ariannol y maent yn ei gael o greu trallod ac o droseddu, o ddefnyddio a chamddefnyddio cyffuriau.
“Rwyf bob amser wedi nodi'n glir na allwn ddatrys problemau o'r fath ar ein pen ein hunain. Mae angen i ni feithrin partneriaethau cadarnhaol, gonest a dynamig â'r timau sy'n gweithio yn ein cymunedau, yr asiantaethau sydd wedi meithrin cydberthnasau â'r unigolion sy'n defnyddio cyffuriau, a'r cymorth a'r camau i ddiogelu ein heddlu sy'n gweld y trasiedïau, y trais a'r effaith leol yn rheolaidd.
“Edrychaf ymlaen at weld ymrwymiad ein staff, ein swyddogion, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, ein partneriaid a'n harweinwyr cymunedol wrth iddynt ddod at ei gilydd er mwyn helpu ni i gyd i gadw De Cymru yn ddiogel.”
Mae cudd-wybodaeth a ddarperir gan gymunedau ledled De Cymru yn hysbysu swyddogion am faterion ac yn gwneud gwahaniaeth mawr wrth helpu i fynd i'r afael ag unigolion sy'n defnyddio ac yn cyflenwi cyffuriau anghyfreithlon. Helpwch ni drwy – Rhoi gwybodaeth i Heddlu De Cymru: Riportio | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk), ffoniwch 101 neu cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw drwy crimestoppers-uk.org neu ar 0800 555 111.
Mae Dan 24/7 yn llinell gymorth cyffuriau sy'n gyfrinachol ac am ddim. Gallwch weld Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a Lleihau Niwed lawn 2022 – 2025 yma: Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau a Lleihau Niwed 2022–2025 | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)