Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ddydd Iau 27 Hydref 2022, am oddeutu 6.40am ym Mhort Talbot.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Cwmafon ar y gyffordd â London Row a oedd yn cynnwys seiclwr a Vauxhall Astra llwydfelyn.
Bu farw'r seiclwr, Michael Blake, 38 oed, o ganlyniad i'r gwrthdrawiad. Yn wreiddiol o Gasnewydd, roedd yn byw yn ardal Taibach, Port Talbot.
Dywedodd Michelle, partner hirdymor Mr Blake: “Roedd gan Michael bersonoliaeth fawr ac roedd yn gallu bod yn blwmp ac yn blaen ond y tu ôl i ddrysau caeëdig roedd ganddo galon aur. Byddai'n gwneud unrhyw beth drostaf pryd bynnag yr oeddwn yn gofyn. Roedd wrth ei fodd yn yr awyr agored, yn pysgota, gwersylla a reidio ei feic.
“Mae'n deg dweud y bydd ei deulu, ei blant, ei wyrion, ei lys-blant, ei fam, ei chwiorydd, ei nithod a'i neiod a chymaint o'i ffrindiau yn y gymuned yn gweld ei eisiau'n ofnadwy. “Mae wedi gadael bwlch enfawr yn ein calonnau ac, yn syml, ni fyddwn byth yn gallu eu llenwi.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a geisiodd helpu Michael yn y fan a'r lle, gan gynnwys y rhai a wnaeth stopio i ddarparu cymorth cyntaf a'r holl wasanaethau brys a fynychodd. Diolch yn arbennig i'r staff yn Ysbyty Treforys sydd erbyn hyn yn gofalu am Michael wrth i ni wrth geisio dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd.”
Cafodd dyn 33 oed o Faesteg ei arestio ac mae wedi cael ei ryddhau tra bydd yr ymchwiliad yn parhau.
Rydym yn apelio am dystion i'r gwrthdrawiad neu unrhyw un a allai fod yn teithio yn yr ardal ar y pryd ac sydd ag unrhyw glipiau dashfwrdd i gysylltu â ni.
Cysylltwch ag Uned Plismona'r Ffyrdd ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod 2200363911 neu ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd