Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
16:25 23/10/2022
Mae'r fenyw 45 oed a fu farw mewn eiddo ar Deras Idris, Plas-marl, bore ddoe (Ddydd Sadwrn 22 Hydref) wedi cael ei henwi fel Angie White.
Mae teulu Angie, sy'n parhau i gael cefnogaeth a'r wybodaeth ddiweddaraf gan swyddogion wedi'u hyfforddi'n arbennig, wedi talu teyrnged iddi:
"Mae ein colled yn dristwch mawr i ni fel teulu. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth a'ch geiriau caredig.
“Gofynnwn am breifatrwydd wrth i ni alaru ein colled."
Mae Daniel White, 35 oed o'r Porth, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Deras Idris tua 6am ddoe.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matt Powell, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Rwy'n meddwl am deulu a ffrindiau Angie sydd, yn ddealladwy, wedi cael eu llorio gan yr hyn sydd wedi digwydd, ac ar ran pawb sy'n rhan o'r ymchwiliad, anfonaf gydymdeimladau dwys atynt.
“Rydym yn ymwybodol o'r effaith y mae marwolaeth Angie wedi'i chael a hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am ei chefnogaeth.
“Er bod yr unigolyn dan amheuaeth wedi cael ei gyhuddo, ac er nad ydym yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â'i marwolaeth, mae ein hymholiadau'n parhau ac rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a all ein helpu.”
Cysylltwch â ni drwy https://mipp.police.uk/operation/62SWP22B54-PO1 gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 2200357888.