Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:38 22/10/2022
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i farwolaeth menyw 45 oed o ardal Plas-marl.
Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad ar Deras Idris am 6am heddiw (Dydd Sadwrn 22 Hydref).
Mae dyn lleol 35 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio.
Mae'n cael ei gadw yng Ngorsaf Heddlu Canol Abertawe ar hyn o bryd.
Credir bod y rhai sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad yn adnabod ei gilydd.
Bydd yr ardal yn parhau ar gau a bydd mwy o swyddogion yr heddlu yn bresennol yn yr ardal tra bydd yr ymchwiliadau'n parhau.
Mae ystafell digwyddiad mawr wedi'i sefydlu yng Ngorsaf Heddlu'r Cocyd.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd, Darren George o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr yr heddlu:
“Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned leol wrth i ni barhau â'r ymchwiliad hwn, a hoffwn roi sicrwydd iddi nad ydym yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth hon ar hyn o bryd.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â 101 neu Crimestoppers ar 0800 555 111 gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2200357888.