Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn annog y cyhoedd i roi gwybod am bryderon ynghylch troseddau casineb yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb rhwng 8 a 15 Hydref 2022.
Cafodd yr Heddlu wybod am dros fil o droseddau casineb eleni. Er hyn, mae'r pryderon ynghylch troseddau casineb y caiff yr Heddlu wybod amdanynt wedi gostwng ers y llynedd. Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw un sy'n dioddef trosedd casineb neu sy'n dyst i ddigwyddiad sy'n gysylltiedig â chasineb i roi gwybod i ni.
Gall troseddau casineb fod ar sawl ffurf gan gynnwys ymosodiad corfforol, cam-drin geiriol, bwlio neu aflonyddu ar-lein, a llawer o droseddau eraill. Gyda throsedd casineb, mae “pwy” yw'r dioddefwr, neu “beth” mae'n ymddangos yw'r dioddefwr, yn ysgogi'r troseddwr i gyflawni'r trosedd.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason Rees: “Rydyn ni'n ymrwymedig i fynd i'r afael â'r math mwyaf ffiaidd hwn o droseddau sy'n cael effaith mor sylweddol ar ddioddefwyr a'r gymdeithas ehangach.
“Drwy roi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath, gallwn gymryd camau yn erbyn troseddwyr a rhoi'r cymorth sydd ei angen arnynt i ddioddefwyr.”
Mae gan Heddlu De Cymru dîm penodol o swyddogion troseddau casineb a fydd yn ymweld ag ysgolion, clybiau chwaraeon a chymunedau yn ystod yr wythnos er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ac yn annog pobl i roi gwybod amdanynt.
Os oes gennych bryderon ynghylch troseddau casineb, gallwch roi gwybod i Heddlu De Cymru neu sefydliad partner yma: Troseddau casineb | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)