Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd 51 o bobl eu harestio a chymerwyd 9 arf oddi ar y strydoedd yn ystod yr ymgyrch, wedi'i hanelu at fynd i'r afael â throseddau treisgar.
Dywedodd yr Arolygydd Scott Threadgold o Dîm Plismona yn y Gymdogaeth Llanisien, Tredelerch a Llaneirwg: “Ni chaiff trais na throseddau cyllyll eu goddef ar ein strydoedd a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i dargedu'r rheini sy'n parhau i darfu ar fywydau cymunedau lleol.”
O blith y 51 o arestiadau roedd 10 am drais domestig, 7 am feddu ar arfau, 6 am ymosod a 5 am feddu ar gyffuriau gyda'r bwriad o'u cyflenwi.
Ymhlith yr eitemau a atafaelwyd mae'r canlynol:
Cynhaliwyd yr ymgyrch wyth wythnos mewn ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion o drais yn gynharach eleni, ac yn benodol oherwydd pryderon bod pobl ifanc yn cario arfau a bod delwyr cyffuriau yn manteisio arnynt i ddelio cyffuriau ar y stryd
Ychwanegodd yr Arolygydd Threadgold: “Nid yn unig y mae pobl ifanc sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau ac sy’n cario arfau yn rhoi eu hunain mewn sefyllfa agored i niwed, ond gall eu gweithredoedd effeithio ar y gymuned gyfan drwy arwain at gynnydd mewn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Mae trigolion lleol wedi cysylltu â ni â gwybodaeth, ac rydym wedi targedu’r rheini sy’n achosi’r niwed mwyaf gan gefnogi’r rheini sy’n agored i niwed y gallai rhywun fanteisio arnynt.
“Mae’r gydberthynas dda sy’n bodoli rhwng swyddogion a’r gymuned leol yn un o’r rhesymau pam y mae’r ymgyrch hon wedi bod mor llwyddiannus, ac rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth barhaus. ”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y materion hyn neu sy’n poeni amdanynt gysylltu â Heddlu De Cymru. Rhowch wybod i ni ar-lein ar https://bit.ly/SWPReportOnline neu drwy ffonio 101. Dylech ffonio 999 mewn argyfwng bob amser.
Er nad yw torseddau cyllyll yn rhan o fywyd beunyddiol yn Ne Cymru, mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithredu i atal problem rhag codi.
Ein nod, drwy ein hymgyrch #DdimYrUn, yw addysgu pobl ifanc ynghylch peryglon cario cyllell drwy roi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i rieni, athrawon a grwpiau cymunedol wneud hyn.
I gael gwybod mwy ewch i https://www.nottheone.co.uk/cy