Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gwnaeth Dennis Mandzikwa, o Rydychen, ffrindiau â'i ddioddefwr ar-lein cyn teithio i Gaerdydd i gyfarfod â'i gilydd ym mis Ebrill 2021 lle gorfododd ei hun fwy nag unwaith ar ei ddioddefwr.
Cafodd y dyn 52 oed ei gyhuddo o ddau achos o drais rhywiol a dau achos o ymosodiad rhywiol. Gwadodd y cyhuddiadau ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn treial a'i ddedfrydu yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener diwethaf (14 Hydref).
Cafodd Mandzikwa ei ddedfrydu i 22 o flynyddoedd o garchar. Cafodd gorchymyn atal ei osod arno, ynghyd â gorchymyn atal niwed rhywiol, a chafodd ei orchymyn i lofnodi'r gofrestr troseddwyr rhyw am gyfnod amhenodol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jo Hall, y swyddog yn yr achos: “Dangosodd y dioddefwr gryfder a dewrder aruthrol yn ystod yr ymchwiliad, er mwyn sicrhau bod Mandzikwa yn cael ei ddwyn o flaen ei well.
“Dangosodd y ddedfryd pa mor ddifrifol rydym ni a'r llysoedd yn trin y math yma o droseddau rhyw.”
Cewch weld sut mae Heddlu De Cymru yn helpu dioddefwyr achosion o drais ac ymosodiadau rhywiol gyda chymorth gan ein sefydliadau partner a grwpiau elusennol drwy fynd i:
Support for victims of rape and sexual assault | South Wales Police (south-wales.police.uk)