Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod Mis Hanes Pobl Ddu, mae Heddlu De Cymru yn cydnabod ac yn dathlu modelau rôl Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sydd wedi gwasanaethu yn ein sefydliad. Derrick Hassan, a fu farw'n gynharach eleni, oedd y cyntaf.
Hanner canrif yn ôl y mis hwn, mewn cyfnod gwahanol iawn, gwnaeth Derrick y penderfyniad dewr i ddod yn swyddog heddlu, y swyddog heddlu du cyntaf i'w benodi yn ne Cymru, ar ôl gwasanaethu gynt gyda'r Llynges Fasnachol a hyfforddi i fod yn saer.
Fel pob swyddog arall, dechreuodd Derrick ei yrfa fel cwnstabl rheng flaen ar batrôl, ac ar ôl ychydig o flynyddoedd ar y rhawd, symudodd ymlaen i wasanaethu gyda'r Adran Ymchwiliadau Troseddol yn y Rhath ac wedyn yn Nhredelerch yng Nghaerdydd. O 1999 tan iddo ymddeol o'r heddlu yn 2022, gwasanaethodd fel swyddog crwner. Hefyd yn ystod y cyfnod hwn, chwaraeodd Derrick rôl bwysig i helpu i sefydlu Cymdeithas Heddlu Du De Cymru (BPA).
Fel ffigwr blaenllaw yn y BPA, rhoddodd Derrick gyngor ac arweiniad fel mentor i gydweithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Er mwyn cydnabod y gwaith hwn a'i wasanaeth dros gysylltiadau hil yr heddlu, yn 2003 cafodd gymeradwyaeth gan Gymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du.
Yn y fideo byr hwn, mae Ceri, gwraig Derrick, yn rhoi o'i hamser i rannu'r atgofion a rannodd Derrick â hi am ei yrfa yn Heddlu De Cymru.
Mae llawer yn cofio'n annwyl am Derrick fel mentor ac am ei waddol a'i ddylanwad yn Heddlu De Cymru. Yn hanesyddol, bu ei benodiad a'i gyfraniadau cadarnhaol tuag at Heddlu De Cymru yn bennod newydd yn hanes yr heddlu, a dyna pam mae'r heddlu wedi enwi Gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Derrick Hassan eleni i dalu teyrnged i'w wasanaeth.
Cyflwynwyd y wobr gan Ceri yn Seremoni Wobrwyo #TîmHDC yng Nghaerdydd yn gynharach yr wythnos hon.