Cawsom ddigonedd o straeon ysbrydoledig a dirodres am ddewrder, creadigrwydd, anhunanoldeb ac ymroddiad unwaith eto wrth i #GwobrauTîmHDC ddychwelyd neithiwr.
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo – a gynhelir bob blwyddyn fel arfer, ond sydd wedi cael ei chynnal ddwywaith eleni o ganlyniad i'r pandemig – yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd. Mae'n gyfle i gydnabod swyddogion, staff, gwirfoddolwyr a phartneriaid sydd wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswydd ar ran Heddlu De Cymru a'r cymunedau a wasanaethwn.
Yr enillwyr eleni – a ddewiswyd gan y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddau Alun Michael – oedd:
- Gwobr Dysgwr y Flwyddyn -DC Amy Farrar, a oedd ymhlith y garfan gyntaf o recriwtiaid #PlismonaNawr HDC. Llwyddodd i ymgymryd â'i hastudiaethau a hefyd oruchwylio ymchwiliadau cymhleth ar yr un pryd, gan sicrhau euogfarnau am droseddau yn cynnwys anafu corfforol difrifol, treisio, lladrata a blacmel.
- Gwobr y Siryfiaeth i Swyddog Cymunedol - Y PCSO Lisa Banfield, a ddisgrifiwyd fel “calon ac enaid” canol tref Pontypridd. Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a hyrwyddo'r dref yn gadarnhaol, aeth ati i sefydlu menter ‘bag mewn argyfwng’, a fu'n hynod lwyddiannus, a sicrhau cyllid ar ei chyfer.
- Gwobr y Filltir Ychwanegol i Wirfoddolwyr - Christopher McCue, a wirfoddolodd bron 500 o oriau yng Nghaerdydd a'r Fro rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2021, tra ei fod hefyd astudio am radd ym Mhrifysgol De Cymru. Dywedwyd ei fod "yn benderfynol ac yn ymroddedig", ac yn fodel rôl i'w gyd-wirfoddolwyr.
- Gwirfoddolwr Ifanc yr Heddlu y Flwyddyn – Ethan Seymour o hwb Morgannwg Ganol a Jack Healey o hwb Caerdydd a'r Fro, a oedd yn enillwyr ar y cyd. Canmolwyd Ethan am helpu i lansio #YmgyrchAdarYMôr, cynnal ymarferion goryrru, a gweithio yng Ngŵyl Elvis a ras 10k Porthcawl, a chanmolwyd Jack am roi anogaeth i aelodau newydd, gan eu hysbrydoli gyda'i "egni a'i ymrwymiad anhygoel."
- Gwobr Gwasanaeth Rhagorol i Bobl – DC Sian Weyman o Dîm Ymchwiliadau Treisio Morgannwg Ganol. Gwnaeth ei dyfalbarhad a'i diwydrwydd yn ystod ymchwiliad cymhleth a heriol i achos hanesyddol o gam-drin plant yn rhywiol sicrhau cyfiawnder dros dri dioddefwr a oedd yn agored i niwed. Cafodd y camdriniwr ei euogfarnu mewn perthynas ag un dioddefwr, cyn cyfaddef ei fod yn euog mewn perthynas â dau arall, ac mae bellach yn bwrw dedfryd o 16 mlynedd yn y carchar tra'n aros i gael ei ddedfrydu ymhellach.
- Gwobr Argraff - Y Tîm Cyfalaf Ystadau, a fu'n gyfrifol am Ganolfan Ddysgu'r Heddlu o'r radd flaenaf ym mhencadlys HDC ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gwnaeth y tîm ddefnyddio deunyddiau costeffeithiol o ansawdd uchel a chadw deunyddiau eraill mewn ffordd glyfar i greu adeilad a fydd yn hyfforddi cenedlaethau o swyddogion yn y dyfodol.
- Gwobr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Derrick Hassan – Dirprwy Brif Gyfarwyddwr Arfau Tanio, y Rhingyll Sarra Kew, sydd wedi gweithio'n ddiflino i wella cyfraddau recriwtio a chadw swyddogion benywaidd, gan sicrhau bod y wisg a'r cyfarpar yn gynhwysol o ran rhyw a sefydlu cynllun mentora ar gyfer recriwtiaid newydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol ac mae'r uned – adran ar y cyd â Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys – bellach yn cynnwys mwy o fenywod na'r cyfartaledd cenedlaethol.
- Gwobr Ymgysylltu Eithriadol – Sarah Davies o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Ymhlith ei chyflawniadau mae creu menter Lleisiau Ifanc, a arweiniodd at fwy na 2,000 o bobl 11-25 oedd – sydd yn aml yn dod o grŵp demograffig anodd ei gyrraedd – yn ymgysylltu â ni i rannu eu profiadau o droseddau a phlismona.
- Gwobr Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am Ddatrys Problemau Eithriadol mewn Partneriaeth – Cyd-enillwyr, Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Gorseinon a Thîm Parc Sglefrio Gelligaled. Cafodd Tîm Plismona yn y Gymdogaeth Gorseinon ei ganmol am gryfhau partneriaethau a chysylltiadau cymunedol â phawb ond dileu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, a gweithiodd tîm amlasiantaethol y parc sglefrio gyda phobl ifanc leol i drawsnewid parc sglefrio Gelligaled, gan ei ddefnyddio i gynnal digwyddiadau cymunedol a lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn sylweddol.
- Gwobr Gwaith Tîm Heddlu De Cymru – Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus a weithiodd yn ddiflino, ar ôl i'r galw gyrraedd y lefelau uchaf erioed, i leihau amseroedd aros a pharhau i fod ar gael i'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas.
- Gwobr Arweinyddiaeth Ragorol – Dawn Nyhan o'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus, “sydd, yn ystod ei gyrfa o 36 mlynedd, wedi bod yn gadarnhaol ac yn broffesiynol tu hwnt ac sydd bob amser yn chwilio am gyfle i wneud gwahaniaeth.”
- Gwobr am Ymchwiliad y Flwyddyn – Y tîm a ymchwiliodd i lofruddiaeth Logan Mwangi, a aeth ati'n ofalus i greu darlun o'r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth dorcalonnus y bachgen pump oed, ac i fod yn gyfrifol am ymchwiliad estynedig, cymhleth a phoenus i sicrhau cyfiawnder dros y bachgen bach a'i anwyliaid. Dywedwyd bod y tîm ”wedi dangos rhinweddau gorau Heddlu De Cymru a'i bobl ac wedi cynnal ein gwerthoedd craidd o fod yn falch, yn broffesiynol ac yn gadarnhaol.”
- Gwobr Dewrder Eithriadol – Peryglodd PCSO Lloyd Bridgeman ei ddiogelwch ei hun pan neidiodd i mewn i Ffos Castell Caerdydd i achub dyn a oedd wedi cael ei ddal ac a oedd yn boddi ar noson oer o Dachwedd. Yn sicr, gwnaeth ei weithredoedd anhunanol achub bywyd y dyn.
- Gwobr Cyflawniad Oes i Staff yr Heddlu –Trist yw nodi bod y wobr hon wedi cael ei rhoi i'r Swyddog Cadwraeth, y diweddar Simon Gray, a fu farw'n sydyn eleni ar ôl ymroi i HDC a chymunedau de Cymru am 17 mlynedd. Wrth ei enwebu, dywedodd ei Ringyll: “I Simon, nid swydd yn unig oedd ei rôl, ond gyrfa o ymroi i helpu'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, a hynny'n aml pan oeddent mewn trallod mawr neu yng nghanol argyfwng personol. Mae'r ddalfa yn gofyn am amynedd, dealltwriaeth a thosturi – rhinweddau oedd ganddo'n ddi-fael."
- Gwobr Cyflawniad Oes i Swyddogion yr Heddlu– y Rhingyll Fiona Haggerty sydd, dros 27 mlynedd, wedi gweithio ym maes ymateb, plismona yn y gymdogaeth, y ddalfa, cynllunio ac Ymgyrchoedd Arbenigol. Mae wedi achub pobl o fflat ar dân ac wedi achub bywyd dyn yng nghefn fan heddlu. Cyn ei hymddeoliad yn ddiweddarach eleni, dywedodd yr Arolygydd Mike Kings: "Os ydych yn lwcus, efallai y byddwch yn gadael marc ar un o'r meysydd rydych wedi arbenigo ynddynt. Ond nid gor-ddweud yw dweud bod Fiona wedi gadael ei marc ar yr heddlu cyfan. Mae'n wir yn ysbrydoli eraill."
Dywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Mae Gwobrau Tîm HDC wir yn uchafbwynt i ni, am eu bod yn dangos y bobl orau sy'n gwasanaethu yma yng nghymunedau de Cymru.
“Mae bob amser yn destun balchder gwirioneddol i mi glywed straeon pob un sydd cael ei enwebu, y mae llawer ohonynt wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswydd wrth weithredu.
“Mae pob un a enwebwyd yn haeddu cael y gydnabyddiaeth a roddwyd iddynt heno ac ar ran 'TîmHDC, hoffwn ddiolch unwaith eto iddynt am yr ymroddiad, y proffesiynoldeb a'r ymrwymiad di-syfl.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael:
“Mae bob amser yn fraint enfawr bod yn rhan o Wobrau Heddlu De Cymru sy'n cydnabod llwyddiannau anhygoel swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy'n chwarae rhan hollbwysig i atal niwed a chadw cymunedau de Cymru yn ddiogel.
“Fis nesaf, byddaf wedi bod yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru ers deng mlynedd, ac mae'r digwyddiad blynyddol hwn bob amser yn fy ysbrydoli wrth glywed am ddewrder, proffesiynoldeb ac ymroddiad pobl mewn amryw rolau gwahanol.
“Ceir enghreifftiau ysbrydoledig o ymyrraeth gynnar a chydweithredu ag asiantaethau a phroffesiynau eraill a fyddai'n rhoi pleser mawr i Syr Robert Peel, a ddywedodd mai cyfrifoldeb pennaf yr heddlu yw atal troseddu.
“Rwy'n hyderus bod gennym dîm gwych sy'n ymrwymedig ac sydd â'r gallu i sicrhau bod cymunedau ledled de Cymru yn fwy diogel.”