Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd difrifol a ddigwyddodd ar Ffordd Brithweunydd, Trealaw, Tonypandy am oddeutu 11.40pm ddoe (Dydd Sadwrn 22 Hydref).
Bu fan VW glas mewn gwrthdrawiad â cherddwr.
Cafodd y cerddwr, bachgen 16 oed o Donypandy, ei gludo i Ysbyty Treforys gydag anafiadau a fydd yn newid ei fywyd.
Cafodd gyrrwr y fan, dyn 22 oed, a theithiwr, bachgen 15 oed, y ddau o'r Porth, eu harestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Dywedodd PS Jason Beaumont:
“Hoffem ddiolch i'r gymuned leol y mae cau'r ffordd wedi effeithio arni, am ei hamynedd a'i dealltwriaeth.
“Hoffem glywed gan unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu y gall fod ganddo fideo camera dashfwrdd neu deledu cylch cyfyng o'r digwyddiad.”
Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2200358796 neu drwy ffonio Crimestoppers yn ddi-enw ar 0800 555 111.