Stamp amser presennol: 24/06/25 04:25:21
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Gwrthdrawiad traffig ffordd angheuol ar yr A48: enwi'r unigolyn a'r teulu yn talu teyrnged

Cynnwys y prif erthygl

Apeliadau
Cyhoeddwyd: 14:22 18/10/22

Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar yr A48 ger cylchfan Trelales i gyfeiriad Stormy Down tua 9.10 ddydd Sul, 16 Hydref.

Gall swyddogion bellach enwi'r beiciwr a fu farw yn dilyn y gwrthdrawiad.

Hannah landing page preview pics  (15).png

Roedd Lucy John yn 35 mlwydd oed ac mae ei theulu wedi talu'r deyrnged ganlynol iddi:

“Gyda chalon drom a thristwch mawr mae'n rhaid i ni fel teulu gyhoeddi marwolaeth calon ein teulu - Lucy John (Chilcott gynt).

“Cafodd Lucy John ei lladd mewn ffordd dorcalonnus wrth wneud yr hyn roedd hi'n ei garu a'r hyn a oedd yn helpu i danio egni bywyd mor ddisglair.

“Bu Lucy John mewn gwrthdrawiad â cherbyd modur rhwng Trelales a Stormy Down ar yr A48 fore Sul, wrth feicio ar ei beic ffordd, yr oedd yn ei garu ac yn mor falch ei bod, o'r diwedd, wedi gallu fforddio ei brynu. Yn anffodus, oherwydd ei hanafiadau difrifol bu farw yn y fan a'r lle.

“Roedd Lucy yn fam, yn wraig, yn ferch, yn chwaer, yn wyres, yn gyfnither, yn fodryb, yn nith, yn dreiathletwr, yn athletwraig CrossFit, yn gydweithwraig ac yn ffrind annwyl iawn i lawer o bobl yn y gymuned leol. Roedd bob amser yn llawn egni, gydag agwedd bositif ac angerdd am ei bywyd ei hun a bywyd pawb o'i chwmpas.

“Mae'r cariad a'r gefnogaeth rydym ni fel teulu wedi eu derbyn gan bawb a oedd yn ei hadnabod, o bell ac agos, yn ffynhonnell werthfawr o gysur i aelodau'r teulu yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Hoffem ddiolch yn arbennig i'w theulu CrossFit (CrossFit Pen Y Bont), ei theulu treiathlon (Clwb Tri Pen y Bont) a'i theulu beicio (Tondu Wheelers) a oedd yno iddi bob amser ac sy'n ein cefnogi ni fel teulu nawr. Rydym ni'n anfon llawer o gariad atoch i gyd.

“Oherwydd natur y digwyddiad mae'r broses arferol o ffarwelio â Lucy yn mynd i fod ychydig yn anoddach na'r arfer wrth i'r ymchwiliad llawn fynd yn ei flaen. Unwaith y bydd manylion am y trefniadau ar gael byddant yn cael eu rhannu â phawb er mwyn rhoi cyfle i bawb dalu eu teyrngedau ac i ffarwelio â Lucy.

“Gafaelwch yn dynn yn eich anwyliaid a thrysorwch bob eiliad yn eu cwmni.

“Gyda chariad a diolch i bawb am eich cefnogaeth, wrth ei rhieni – Sharon and Nigel, cannwyll ei llygad - ei mab Caden, ei gŵr cariadus - Evan, ei brawd a'i chwaer agos - Heather a Jason, ei hail rieni cariadus – llys-fam Angela a'i mam a'i thad yng nghyfraith Jayne a Huw, a'i mam-gu, Ann.

“Roedd gan Lucy hefyd deulu estynedig ehangach a oedd yn ei charu ac a fydd yn ei cholli'n fawr.”

Mae'r apêl am dystion posibl yn parhau.

Hoffai swyddogion glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu y gall fod â fideo camera dashfwrdd o'r digwyddiad neu a fu'n dyst i'r modd yr oedd yr Honda yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.

Nid ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad hwn. Arhosodd y gyrrwr ar y safle i gynorthwyo'r swyddogion. Mae'r ymchwiliad yn dal i fynd yn ei flaen.

Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2200350471.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2024. Cedwir pob hawl.