Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd am tua 9.10am heddiw ar yr A48 rhwng cylchfan Trelales a Stormy Down.
Bu Honda Civic du mewn gwrthdrawiad â beic ac, er gwaethaf ymdrechion gorau aelodau o'r cyhoedd a'r gwasanaethau brys, aethpwyd â'r beiciwr, menyw 35 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, i'r ysbyty lle bu farw yn ddiweddarach o ganlyniad i'w hanafiadau.
Dywedodd DC Alun Efstathiou:
“Hoffwn ddiolch i'r aelodau o'r cyhoedd a roddodd gymorth yn lleoliad y gwrthdrawiad ac i aelodau'r gymuned leol am eu hamynedd tra bu'r ffordd ar gau er mwyn i ni gynnal ein hymchwiliadau.
“Rydym yn cydymdeimlo â theulu'r ymadawedig ar yr adeg hon.
“Hoffem glywed gan unrhyw un a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu y gall fod ganddo fideo camera dashfwrdd o'r digwyddiad neu a welodd y modd yr oedd yr Honda yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.”
Ewch i https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/ gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2200350471.