Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ymgyrch Heddlu De Cymru ar waith i gadw ardaloedd arfordirol Caerdydd a Bro Morgannwg yn ddiogel a chyfeillgar i deuluoedd dros yr haf.
Bydd mwy o batrolio a, lle y bo'n briodol, bydd pwerau gwasgaru unwaith eto eleni yn dilyn llwyddiant Ymgyrch Elstree y llynedd, pan welwyd gostyngiad o 32 y cant mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Mae Ymgyrch Elstree yn cynnwys lleoliadau allweddol gan gynnwys Bae Caerdydd, Penarth ac Ynys y Barri, yn ogystal â'r Arfordir Treftadaeth rhwng Trwyn y Rhws ac Aberogwr.
Bydd yn rhedeg o nawr tan fis Medi.
Bydd swyddogion cymdogaeth lleol yn cael cymorth gan gydweithwyr o bob rhan o Heddlu De Cymru, yn ogystal ag ystod o gydweithwyr o'n hasiantaethau partner.
Bwriad yr ymdrech ar ffurf tîm hon yw atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan sicrhau bod modd i drigolion ac ymwelwyr sy'n parchu'r gyfraith fwynhau'r ardaloedd arfordirol yn dawel.
Rhoddwyd gorchymyn gwasgaru Adran 35 ar waith neithiwr o ganlyniad i'r torfeydd mawr a ymgasglodd ar Ynys y Barri.
Mae'r gorchymyn hwn, sydd wedi'i ymestyn am 24 awr arall tan 4pm yfory (dydd Mercher, 20 Gorffennaf) yn rhoi'r pŵer i swyddogion symud unrhyw un dan 16 oed a'u cludo i'w cartref neu i fan diogel.
Bydd swyddogion hefyd yn gallu rhoi cyfarwyddyd i unrhyw un sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, i adael ardal.
Mae'r pŵer hwn yn ataliol ac mae'n galluogi'r swyddog i ddelio ag ymddygiad unigolyn yn gyflym cyn iddo waethygu.
Dywedodd yr Arolygydd Stuart McDean, o Heddlu De Cymru: "Mae'r mwyafrif helaeth o bobl sy'n ymweld â'n hardaloedd arfordirol hyfryd yn ymddwyn yn briodol ac yn unol â'r rheoliadau.
"Ond ni fyddwn yn goddef ymddygiad y nifer bach o bobl sy'n yfed gormod o alcohol, yn taflu sbwriel ac yn amharu ar allu dinasyddion sy'n parchu'r gyfraith i fwynhau eu hunain mewn heddwch.
"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu yn cael effaith niweidiol ar ein cymunedau, a byddwn yn parhau i fynd ar batrôl mewn ardaloedd allweddol er mwyn atal hynny."
Gall ymwelwyr â'r ardaloedd arfordirol dros yr wythnosau nesaf fod yn dawel eu meddwl y bydd rhagor o bwerau gwasgaru Adran 35 yn cael eu rhoi ar waith, lle y bo'n briodol, er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Bydd Ymgyrch Elstree hefyd yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch yfed dan oedran, neidio oddi ar glogwyni a'r defnydd gwrthgymdeithasol o feiciau a chwadiau oddi ar y ffordd.