Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri dyn wedi cael eu carcharu am gyfanswm o naw mlynedd a hanner.
Daeth swyddogion o hyd i ffatri canabis y tu mewn i uned ddiwydiannol ym Mhontypridd.
Roedd 856 o blanhigion canabis yn yr uned, â gwerth stryd amcangyfrifedig rhwng £299,600 a £898,800, a chafwyd hyd i'r brodyr Beqir Vata, 41, a Kujdesi Vata, 37, yn yr uned hefyd, y ddau ohonynt o Bontypridd.
Yn dilyn ymchwiliad gan Dîm Troseddau Cyfundrefnol Morgannwg Ganol, cafodd y dynion eu cyhuddo a'u cadw yn y ddalfa.
Oherwydd cryfder y dystiolaeth yn eu herbyn, plediodd y ddau yn euog i gynhyrchu canabis Dosbarth B.
Cafodd y ddau eu carcharu am 45 mis ddydd Gwener (1 Gorffennaf 2022) yn Llys y Goron Merthyr.
O ganlyniad i ymholiadau a gynhaliwyd mewn cyfeiriad yng Nghaerloyw, daethpwyd o hyd i drydydd brawd.
Cafodd Milazim Vata, 23, ei arestio. O dan ei wely, cafwyd hyd i fagiau o ganabis wedi'i becynnu dan wactod a oedd yn pwyso dros 11kg â gwerth stryd posibl o £137,500.
Plediodd Milazim Vata yn euog i feddiant â'r bwriad i gyflenwi canabis Dosbarth B a chafodd ddedfryd o 25 mis o garchar.
Dywedodd DS Lia Jones:
“Mae mynd i'r afael â'r cyflenwad o gyffuriau anghyfreithlon ar ein strydoedd yn flaenoriaeth gan fod y math hwn o weithgarwch troseddol yn cael effaith hynod ddinistriol ar ein cymunedau.
“Mae swyddogion ein huned yn benderfynol o darfu ar grwpiau troseddu cyfundrefnol sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau a chwalu'r grwpiau hynny, gan sicrhau y caiff troseddwyr eu dwyn ger bron eu gwell.
“Mae gwybodaeth gan y gymuned yn hanfodol yn ein brwydr yn erbyn cyffuriau a byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am achosion o ddelio cyffuriau i roi gwybod i ni neu Taclo'r Tacle.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am achosion o gyflenwi cyffuriau gysylltu â ni ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.