Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:22 13/07/2022
Rydym yn ymchwilio i wrthdrawiad traffig ffordd a ddigwyddodd tua 4.45am y bore yma (dydd Mercher 13 Gorffennaf) ar Riw Rhiwbeina, Caerdydd.
Roedd y gwrthdrawiad un cerbyd, sef Suzuki Alto coch, yn cynnwys pump o bobl; bachgen 16 oed, merch 17 oed, bachgen 17 oed, menyw 18 oed a dyn 18 oed.
Aethpwyd â nhw i gyd i Ysbyty Athrofaol Cymru lle mae'r ferch a'r fenyw mewn cyflwr difrifol o hyd.
Hoffai'r heddlu glywed gan unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu unrhyw un a welodd sut roedd y Suzuki Alto coch yn cael ei yrru cyn y digwyddiad ac unrhyw un sydd â deunydd fideo/deunydd o gamera dashfwrdd.
Cysylltwch â ni drwy https://bit.ly/SWPProvideInfo gan ddyfynnu 2200233494.