Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Heddiw, cafodd dyn 26 oed ei anfon i'r carchar am wyth mlynedd ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.
Cafodd Steven Rowe, o Heol Abertawe, Merthyr Tudful, ei ddedfrydu heddiw (dydd Mercher 6 Gorffennaf) yn Llys y Goron Casnewydd.
Cafodd ei ddedfrydu am achosi marwolaeth Robbie Lee Selway, 21 oed, a thri chyhuddiad o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.
Rhaid i Rowe hefyd fwrw cyfnod prawf estynedig o dair blynedd a chafodd ei wahardd rhag gyrru am 13 mlynedd a phedwar mis.
Ddydd Iau 13 Mai y llynedd, roedd Rowe yn gyrru Ford Fiesta wedi'i ddwyn ar hyd ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd rhwng Hirwaun a Chefn Coed gyda thri theithiwr pan fu mewn gwrthdrawiad â Renault Clio gwyn.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Huw O’Connell o Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol Heddlu De Cymru:
“Mae Heddlu De Cymru yn cydymdeimlo â theulu Robbie Selway.
“Dangosodd Steven Rowe ddifaterwch llwyr tuag at ddiogelwch ei deithwyr a defnyddwyr eraill y ffordd yn ystod y digwyddiad hwn, ac yn anffodus, o ganlyniad, bu farw Robbie.
“Roedd y car i'w weld ar systemau CCTV yn gyrru ar gyflymder uchel yn ardal Merthyr Tudful ac Aberdâr a'r cyffiniau yn ystod yr oriau cyn y gwrthdrawiad.
“Methodd Rowe, a oedd hefyd wedi'i wahardd rhag gyrru ar y pryd, â stopio pan ofynnodd yr heddlu iddo wneud hynny, gyrrodd ar gyflymder gormodol dan ddylanwad alcohol, ac o ganlyniad, bydd yn treulio wyth mlynedd yn y carchar.
“Ni ddaw unrhyw ddedfryd o garchar â Robbie yn ôl, ond gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhybudd i'r unigolion hynny sy'n credu y gallant yrru'n fyrbwyll ac achosi perygl i fywydau pobl eraill.
“Hoffai'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol ddiolch i aelodau o'r cyhoedd a roddodd gymorth yn lleoliad y gwrthdrawiad ac i'r unigolion hynny a fu o gymorth yn yr ymchwiliad a ddaeth â'r unigolyn hwn a achosodd gryn berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd ger bron ei well.”