Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae eleni'n nodi 75 mlynedd ers sefydlu pencadlys yr heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Er mwyn nodi'r achlysur, rydym wedi creu'r fideo byr hwn ac arddangosfa ar-lein sy'n tynnu sylw at hanes y safle a'r ffordd mae wedi esblygu trwy'r degawdau er mwyn ein helpu i gadw de Cymru'n ddiogel.
Mae'r arddangosfa hon, sy'n cynnwys ffotograffau, erthyglau newyddion a ffilmiau o'n harchifau, yn adrodd hanes y safle, o'i ddyddiau fel bloc swyddfa ffatri arfau, i'w bwrpas newydd a'i swyddogaeth fel pencadlys yr heddlu o 1947 ymlaen.
Er mai nod yr arddangosfa yw cydnabod yr agwedd hon ar ein treftadaeth, rydym yn gobeithio hefyd y bydd yn ennyn diddordeb cymunedau ac yn codi ymwybyddiaeth o'r ffyrdd rydym wedi datblygu ein hystad, er mwyn datblygu a gwella'r gwasanaethau a ddarparwn gyda'n cydweithwyr yng Ngwent a'r Gwasanaethau Tân ac Achub ac Ambiwlans.
Dyma a ddywedodd y Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan:
“Drwy gydol hanes, gwelwyd nifer o ddatblygiadau yn ein Pencadlys – ac o ganlyniad, llwyddwyd i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau i gymunedau.
Rwyf wrth fy modd bod yr arddangosfa hon yn rhannu hanes ein pencadlys. Nid yn unig hynny, ond rwyf hefyd yn falch gweld ei bod yn dangos rhywfaint o'r gwaith a wnaed y tu ôl i'r llenni drwy gydol y cyfnod, a'i bod yn tynnu sylw at yr hyn a gyflawnwyd gennym yn fwy diweddar, er enghraifft, y gwaith i adeiladu Canolfan Ddysgu newydd yr Heddlu: canolfan arloesol lle y bydd cenedlaethau o swyddogion a staff y dyfodol yn dysgu ac yn datblygu er mwyn helpu i gadw de Cymru yn ddiogel.”
Ychwanegodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alun Michael:
“Mae gan adeilad Pencadlys Heddlu De Cymru hanes hir ac eithriadol, ac mae hyn hefyd yn wir y safle cyfan. Mae'n bleser mawr gweld bod y daith honno bellach yn cael ei rhannu â'n cymunedau.
“Mae'n syndod gweld sut mae'r ystad hon wedi datblygu dros amser, gan addasu'n gyson i ddiwallu anghenion cyfnewidiol gwasanaeth yr heddlu yn ne Cymru. Mae wedi dod yn fwy cost-effeithiol ac effeithlon dros amser a manteisiwyd ar gyfleoedd i ddod â ni'n agosach at ein cydweithwyr yn y gwasanaethau brys eraill, ac yn agosach at y cyhoedd.”
Mae'r arddangosfa bellach yn fyw a bydd yn dirwyn i ben ar 22 Ionawr.