Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tîm Ymchwiliadau Troseddau Mawr Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 66 oed mewn eiddo ar Heol Catwg yng Nghaewern, Castell-nedd.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Darren George:
“Gallaf gadarnhau bod ymchwiliad i lofruddiaeth ar waith ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod yn Heol Catwg ddoe.
“Mae cymuned glòs yn Heol Catwg a byddwn yn annog unrhyw un a all fod â gwybodaeth mewn cysylltiad â'r llofruddiaeth i gysylltu â'n hystafell digwyddiad yng Ngorsaf Heddlu y Cocyd gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol a dyfynnu cyfeirnod 2200138869 https://mipp.police.uk/operation/62SWP22B47-PO1
“Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi clywed neu weld unrhyw beth amheus yn yr ardal rhwng 8am fore dydd Llun, 25 Ebrill ac 1pm brynhawn ddoe, dydd Mercher 27 Ebrill.
“Mae cordon gan yr heddlu ar waith o hyd wrth i Ymchwilwyr Safleoedd Troseddau a Swyddogion Chwilio arbenigol barhau i archwilio'r lleoliad. Hefyd, bydd mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf wrth i swyddogion barhau i wneud ymholiadau. Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am ei chymorth wrth i ni barhau â'n hymchwiliad."
Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae yn y ddalfa o hyd. Nid yw'r dyn 66 oed wedi cael ei enwi'n ffurfiol eto.