Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
15:16 29/04/2022
Mae swyddogion yr heddlu yn ne Cymru wedi bod yn treialu’r Ap Adnabod Wynebau newydd, ac mae'r canlyniadau wedi bod yn gadarnhaol iawn. Dyma'r dechnoleg gyntaf o'i bath yn y DU i adnabod unigolion y mae'r heddlu yn awyddus i'w dal ar unwaith drwy ddefnyddio ap ar ffôn symudol.
Bydd yn galluogi swyddogion i gadarnhau manylion unigolyn dan amheuaeth y mae'r heddlu yn awyddus i'w ddal ar unwaith. Cafodd yr Ap Adnabod Wynebau ei dreialu gan 60 o swyddogion o Heddlu De Cymru sydd wedi cael hyfforddiant yn ystod cyfnod prawf 3 mis o hyd; profodd yn llwyddiannus iawn.
Dangosodd cynllun peilot yr Ap y gall swyddogion ddwyn troseddwyr gerbron llys barn yn gyflymach, cadarnhau hunaniaeth pobl sy'n agored i niwed ac sydd angen cymorth gan yr heddlu ac asiantaethau partner eraill, a dod o hyd i bobl coll.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Hedley, Arweinydd Gweithredol ar gyfer Technoleg Adnabod Wynebau:
“Mae canlyniadau cadarnhaol y treial cychwynnol hwn yn galonogol. Mae'r Ap wedi profi sut y gall technoleg ddigidol helpu ein swyddogion i gadarnhau manylion unigolyn dan amheuaeth neu berson sy'n agored i niwed yn gyflym ac yn gywir, gan arbed amser gwerthfawr ein swyddogion.
Mae cynllun peilot yr Ap hefyd wedi dangos ei bwysigrwydd wrth ddiogelu pobl sy'n agored i niwed a nodi unigolion coll, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar amddiffyn ein cymunedau.
Bydd y canlyniadau ac adborth gan y swyddogion a gymerodd ran yng nghynllun peilot yr Ap yn cael eu defnyddio i gynnal adolygiad pellach o'i nodweddion a'i effeithiolrwydd, a gwneud gwelliannau posibl.”
Defnyddiwyd yr Ap Adnabod Wynebau 42 o weithiau ar 35 o bobl. Fe'i defnyddiwyd yn llwyddiannus mewn ystod o sefyllfaoedd gwahanol i helpu swyddogion i adnabod unigolion yn effeithiol. Dyma rai enghreifftiau:
Defnyddiwyd yr Ap gan swyddogion i adnabod unigolyn a oedd wedi dwyn o siop ac wedi darparu manylion cyswllt ffug. Unwaith y daethpwyd o hyd i'r manylion cywir, cyfaddefodd yr unigolyn dan amheuaeth ei fod yn dweud celwydd wrth y swyddogion a chadarnhaodd ei fanylion cywir. Arestiwyd yr unigolyn dan amheuaeth am ddwyn a rhwystro'r heddlu.
Rhoddwyd gwybod gan heddlu arall bod person risg uchel, 15 oed ar goll. Roedd ganddo gysylltiadau blaenorol ag ardal de Cymru. O ganlyniad i'r wybodaeth hon, siaradodd swyddogion â bachgen roeddent yn credu ei fod yn cyfateb i'r disgrifiad a roddwyd o'r person coll. Pan wrthododd yr unigolyn rhoi ei fanylion, defnyddiwyd yr Ap i gymryd lluniau ohono a oedd yn cyfateb i'r person coll. Cafodd ei ddiogelu gan y swyddogion.
Galwyd swyddogion i adroddiadau o ddyn meddw ar stryd. Nid oedd yn gallu siarad â swyddogion ac nid oedd ganddo brawf adnabod. Defnyddiodd swyddogion yr Ap i gadarnhau pwy ydoedd a'i gyfeiriad. Aethpwyd ag ef i'w gartref a'i adael yng ngofal pobl briodol.
O ganlyniad i ddefnyddio'r Ap Adnabod Wynebau:
• Gwnaethpwyd 11 o arestiadau
• Daethpwyd o hyd i 4 person yr oedd yr heddlu chwilio amdanynt am droseddau.
• Defnyddiwyd mesurau diogelu mewn 5 achos.
Defnyddir technoleg adnabod wynebau pan mae'n angenrheidiol ac yn gymesur i wneud hynny. Mae'n ddatblygiad technolegol arall sy'n galluogi swyddogion yr heddlu i weithio mewn modd mwy effeithlon ac effeithiol ac i gadw unigolion a chymunedau yn ddiogel.