Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri unigolyn wedi'u cael yn euog o lofruddio yn dilyn marwolaeth plentyn pump oed yn ardal Sarn ym Mhen-y-bont ar Ogwr yr haf diwethaf.
Daeth swyddogion yr heddlu o hyd i gorff Logan Mwangi yn afon Ogwr tua 6am ddydd Sadwrn, 31 Gorffennaf.
Daethant o hyd i'r corff yn fuan ar ôl galwad 999 a wnaed gan fam Logan, Angharad Williamson, a ymddangosodd, ynghyd â'r diffynyddion John Cole a bachgen 14 oed na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn Llys y Goron Caerdydd wedi'u cyhuddo o lofruddio Logan.
Yn y treial a barodd am 10 wythnos, clywodd y llys fod y diffynyddion wedi cynllwynio i guddio llofruddiaeth Logan yn yr oriau yn dilyn ei farwolaeth.
Chwaraewyd yr alwad 999 a wnaed gan fam Logan yn y llys – roedd wedi honni i ddechrau bod ei mab ar goll o'i gartref.
Chwaraewyd fideo o gamerâu'r heddlu a wisgir ar y corff hefyd lle roedd mam Logan yn erfyn ar swyddogion i helpu i ddod o hyd i'w mab, a honnodd yn ddiweddarach fod menyw arall wedi'i gipio.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff yn fuan ar ôl iddynt gyrraedd, yn gorwedd yn afon Ogwr, ger cartref y teulu.
Dechreuodd swyddogion yr heddlu amau'r sefyllfa yn fuan, ac wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo, gwyliwyd fideo teledu cylch cyfyng a gafwyd o dŷ gerllaw, lle gwelwyd John Cole a'r diffynnydd ifanc yn cludo corff Logan o'r tŷ yn oriau mân y bore.
Pan holwyd Angharad, mam Logan mewn cyfweliad gan yr heddlu, honnodd ei bod wedi cysgu drwy'r nos, a gwadodd mai hi oedd yn gyfrifol am gynnau a diffodd y goleuadau a symud y llenni yn y fflat a welwyd ar fideo'r teledu cylch cyfyng.
Canfu post mortem ar Logan gan y Swyddfa Gartref ei fod wedi dioddef mwy na 56 o anafiadau. Dywedodd patholegydd fod rhai ohonynt mor ofnadwy y byddech yn disgwyl eu gweld ar ôl i rywun gwympo o uchder mawr neu fod mewn gwrthdrawiad traffig difrifol.
Yn gynharach heddiw, cafwyd Cole, Williamson a'r bachgen 14 yn euog o lofruddiaeth ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Caiff yr unigolion eu dedfrydu yn ddiweddarach.
Dywedodd yr Uwch-swyddog Ymchwilio, Ditectif Arolygydd Lianne Rees, o Dîm Ymchwilio i Droseddau Mawr Heddlu De Cymru:
“Roedd Logan yn fachgen bach hyfryd, disglair a diniwed â'i fywyd cyfan o'i flaen.
“Mae'n anodd dychmygu'r hyn y gwnaeth ei ddioddef gan bobl yr oedd yn ymddiried ynddynt ac mae'n anodd dirnad mai'r rheini a ddylai fod wedi ei garu a'i amddiffyn a wnaeth ei fradychu yn y ffordd fwyaf creulon.
“Mae'r ymdrechion a wnaed i guddio'r drosedd yn ystod yr oriau ar ôl marwolaeth Logan a'r celwyddau a'r twyll dilynol, yn arwydd o'u diffyg teimlad a'u diffyg edifeirwch.
“Ni ellir mesur effaith marwolaeth dorcalonnus Logan ar gynifer o bobl.
“Does dim a all ddod â Logan yn ôl, ond gobeithio y bydd canlyniad heddiw yn dod â rhywfaint o gysur i'r rheini a oedd yn ei garu.
“Byddwn yn parhau i roi cymorth arbenigol i'r rheini yr effeithiwyd arnynt a hoffwn annog unigolion o'r gymuned leol lle mae'r effaith i'w theimlo o hyd i ofyn am gymorth.
“Hoffwn hefyd dalu teyrnged i broffesiynoldeb swyddogion yr heddlu a'n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys y bu'n rhaid iddynt wynebu'r golygfeydd mwyaf trawmatig nôl ym mis Gorffennaf y llynedd, a hoffwn ddiolch i'm tîm o dditectifs sydd wedi gweithio'n ddiflino ar yr ymchwiliad hwn, ar y cyd â Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r Cwnsler Erlyn.
“Mae ymdrechion pawb a fu'n rhan o'r ymchwiliad wedi cyfrannu at ganlyniad heddiw.”