Stamp amser presennol: 03/02/23 09:57:30
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police_ website_ left-hand Corner_ flat White Crest

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Dweud diolch
    • Adborth am y wefan
  • Eich ardal chi

Heddlu De Cymru yn lansio Ymgyrch Adar Môr Cymru i ddiogelu bywyd gwyllt yr arfordir

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Y diweddaraf

08:56 14/04/2022

Op Seabird logo2.jpg

Heddiw (14 Ebrill), bydd Heddlu De Cymru, ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys, yn lansio Ymgyrch Adar Môr Cymru, sef menter ar y cyd gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt sensitif ar hyd y morlin a sut y gall newidiadau syml mewn ymddygiad leihau'r pwysau ar anifeiliaid.

Bydd y timau yn gweithio ochr yn ochr â'r RSPCA a Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, RSPB a Llywodraeth Cymru i weithio tuag at ddealltwriaeth well o'r ecosystemau bywyd gwyllt bregus ar hyd yr arfordir.  Bydd cydgysylltwyr ymgysylltu gwledig Heddlu De Cymru yn patrolio'r arfordir ar y tir, a bydd yr Uned Forol yn gwneud yr un peth ar y dŵr.

Mae ardal Heddlu De Cymru yn ymestyn dros ryw 100 milltir o arfordir sy'n cynnwys Gŵyr, Porthcawl, Penarth, Bae Caerdydd a llawer o fannau poblogaidd eraill ymhlith twristiaid ar hyd y ffordd, sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.

Er bod croeso i dwristiaeth a'i bod yn bwysig iawn i economïau lleol, gall y cynnydd yn y gweithgareddau hamdden sy'n cael eu cynnal ar hyd yr arfordir gynyddu'r pwysau ar fywyd gwyllt pwysig ar y môr. Mae gan unrhyw weithgaredd hamdden y potensial i aflonyddu ar fywyd gwyllt os na chaiff ei wneud mewn modd diogel a chyfrifol, ac wrth i ymweliadau â'r arfordir fynd yn fwy poblogaidd, mae aflonyddu ar fywyd gwyllt yn broblem sydd ar gynnydd mewn nifer o ardaloedd. Mae llawer o ardaloedd o arfordir Cymru yn rhan o rwydwaith y DU o Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) a chânt eu diogelu gan ddynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Dros fisoedd yr haf, bydd Heddlu De Cymru yn cymryd rhan mewn nifer o ddiwrnodau gweithredu a fydd yn gweld swyddogion y Cydgysylltwyr Gwledig a Bywyd Gwyllt yn ymweld â busnesau ac yn ymgysylltu â'r cyhoedd i godi ymwybyddiaeth o'r effaith y gall gweithgareddau hamdden ei chael ar fywyd gwyllt yr arfordir. 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Jenny Gilmer:

“Rydym yn ffodus bod gennym filltiroedd o arfordir hardd yn Ne Cymru sy'n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt morol ac adar môr.

“Rwyf wrth fy modd ein bod yn lansio Ymgyrch Adar Môr Cymru ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gwent.

“Bydd hyn yn helpu i ddiogelu cynefinoedd rhag ymddygiad sy'n aflonyddu ar fywyd gwyllt ac yn addysgu pobl sy'n ymweld â'n harfordir sut i ymddwyn yn gyfrifol o gwmpas bywyd gwyllt morol."

Dywedodd Geoff Edmond, Cydgysylltydd Bywyd Gwyllt Cenedlaethol yr RSPCA:

“Rydym am i bobl fwynhau gwylio ein bywyd gwyllt morol ond dylid gwneud hyn o fewn pellter diogel a synhwyrol, heb aflonyddu ar yr anifeiliaid.

“Bob blwyddyn, mae'n rhaid i ganolfannau bywyd gwyllt yr RSPCA drin ac adsefydlu amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys morloi ac adar môr, sydd wedi cael eu hanafu neu eu hamddifadu oherwydd aflonyddwch dynol. 

“Gall fod yn destun rhyfeddod a chyffro i lawer o dwristiaid weld mamaliaid y môr, sy'n cynnwys morloi a'u lloi bach, a fydd fel rheol yn gorffwys ar y traeth ar wahanol adegau o'r flwyddyn, yn ogystal ag adar nythu ar y tir sydd fel arfer yn dod yma rhwng mis Mawrth a mis Medi. Ond er y gall fod yn demtasiwn i fynd atynt, gofynnwn yn barchus i bawb gadw pellter a chadw eu cŵn ar dennyn ac o dan reolaeth. 

“Ein neges yw ‘Arsylwi, Dim Aflonyddu’ wrth i bobl ymweld ag arfordir bendigedig Prydain.

“Os oes gan bobl bryderon am anifail, dylent gadw eu pellter a chysylltu â llinell gymorth yr RSPCA ar 0300 1234 999 (bob dydd 7am-10pm).”

Dywedodd Rob Taylor, Cydgysylltydd Gwledig a Bywyd Gwyllt Heddlu Cymru:

“Y fenter wych hon yw'r un gyntaf o'i bath i Gymru ac wrth i'r heddlu a'n hasiantaethau partner gydweithio, gallwn ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol i'r cyhoedd sy'n ymweld â'n harfordir a'r môr, er mwyn iddynt wneud hynny'n ddiogel a heb aflonyddu ar ein bywyd gwyllt gwerthfawr.”

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2023. Cedwir pob hawl.