Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymddangosodd dyn 23 oed o Abertawe gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful heddiw, dydd Iau 21 Ebrill 2022, lle cafodd ei ddedfrydu am gyfres o droseddau rhywiol yn erbyn plant.
Mae Samuel Morris wedi pledio'n euog i 40 o achosion o droseddau rhywiol yn erbyn plant rhwng 11 a 15 oed. Cafodd ei anfon i'r carchar am 11 mlynedd ac mae hefyd wedi cael gorchymyn atal niwed rhywiol am gyfnod amhenodol.
Roedd troseddau Morris yn cynnwys annog plant i gymryd rhan mewn gweithgarwch treiddiol, annog gweithgarwch rhywiol a nifer o droseddau cyfathrebu â phlentyn mewn ffordd rywiol.
Plediodd Morris yn euog hefyd i feddu ar ddelweddau anweddus o blant o Gategori A, B, C, pornograffi eithafol a delweddau gwaharddedig ac i ddosbarthu delweddau anweddus o blant ar-lein.
Cynhaliodd Tîm Ymchwiliadau Ar-lein Heddlu De Cymru (POLIT) ymchwiliad ar-lein trylwyr a chymhleth a arweiniodd at nodi plant yn y DU yn ogystal ag yn UDA ac Awstralia.
Nododd ditectifs POLIT fod Morris wedi bod yn esgus bod yn fachgen 16 oed ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol megis Instagram a Snapchat i gyfarfod â phlant a sefydlu perthynas.
Bu'n annog plant i anfon delweddau anweddus o'u hunain, a defnyddiodd gyfarpar recordio sgrin i gadw'r rhain ar ei ddyfeisiau cyn rhannu nifer ohonynt â throseddwyr rhyw eraill drwy fforymau ar-lein.
Nododd yr ymchwiliad 31 o blant rhwng 11 a 15 oed fel dioddefwyr.
Oherwydd yr ymchwiliad cymhleth a thrylwyr a gynhaliwyd gan Dditectifs Heddlu De Cymru o'r Tîm Troseddau Arbenigol a Thîm Ymchwiliadau Ar-lein yr Heddlu, cafwyd ple euog cynnar a dedfryd heddiw.
Dywedodd y Rhingyll Lauren Jones, a arweiniodd ymchwiliad POLIT:
“O ganlyniad i'r ymchwiliad cymhleth a thrylwyr gan dditectifs o Dîm Troseddau Arbenigol yr heddlu a POLIT, doedd dim dewis gan Morris ond pledio'n euog i'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
“Roedd ein hymchwiliad yn cynnwys archwilio nifer o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddiwyd gan Morris i feithrin perthnasau amhriodol â'i ddioddefwyr ifanc. Llwyddom i nodi a diogelu 31 o blant o'r DU a thu hwnt.
“Gan weithio gyda'r archwilydd fforensig DC Anthony Kirby ac ar y cyd â chydweithwyr yn yr heddlu yn Awstralia ac UDA, llwyddom i sicrhau bod yr holl blant a oedd yn ddioddefwyr yn nhroseddau Morris yn cael eu nodi yn llwyddiannus.
“Hoffwn dalu teyrnged i ddewrder y dioddefwyr ifanc yn yr ymchwiliad hwn am siarad â'r heddlu a chefnogi'r erlyniad hwn.
“Mae Tîm Ymchwiliadau Ar-lein yr Heddlu yn uned ddynodedig sy'n arbenigo mewn nodi troseddwyr sy'n targedu plant ar-lein ac yn cyflawni troseddau rhywiol yn erbyn plant.
“Mae mynd i’r afael ag achosion o gamfanteisio’n rhywiol ar blant ar-lein yn flaenoriaeth genedlaethol i wasanaethau gorfodi’r gyfraith, ac rydym yn mynd ar ôl mwy o droseddwyr ac yn diogelu mwy o blant nag erioed o’r blaen.
“Rwy'n annog pob rhiant sydd â phlant sy'n defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i fonitro gweithgarwch ar-lein eich plant a'u hannog i drafod unrhyw ddigwyddiadau a all ddigwydd ar-lein. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod plant yn ymwybodol o'r peryglon y mae troseddwyr megis Samuel Morris yn eu creu ar-lein.”
Os bydd rhieni neu ofalwyr yn pryderu bod oedolion yn cysylltu â'u plentyn o ganlyniad i rannu delweddau rhywiol, dylent roi gwybod i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol a Chamfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (NCA-CEOP) yn www.ceop.police.uk/safety-centre. Dylai unrhyw un sy'n poeni am weithgarwch eu plentyn ar-lein gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101.