Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
11:01 16/02/2022
Mae gyrrwr a fu farw ar ôl i'w gar Hyundai fod mewn gwrthdrawiad ar Maindy Road, Caerdydd ar 6 Chwefror wedi cael ei enwi.
Bradley James, 45 oed, o Cathays, Caerdydd ydoedd.
Mae ei deulu wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo:
“Roedd Brad James yn ddyn ifanc a wnaeth dreulio ei fywyd yn helpu eraill. Mae ei deulu, ffrindiau a chydweithwyr wedi'u syfrdanu gan ei farwolaeth sydyn.
“Roedd pawb oedd yn adnabod Brad yn meddwl y byd ohono. Byddai'n gwneud i unrhyw un oedd yn ei gyfarfod deimlo'n gysurus am ei fod mor garedig a diymhongar. Roedd gan bawb a oedd yn ei adnabod feddwl mawr iawn ohono.
“Roedd Brad yn fab, yn frawd, yn berthynas ac yn feddyg heb ei ail a gwnaeth gyfoethogi bywydau pawb. Ers yn blentyn ei freuddwyd oedd bod yn feddyg a gweithio er budd pobl eraill.
“Aelod arbennig iawn o'r teulu ac un o arwyr y GIG; bydd ei golled yn fawr.”