Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:01 28/02/2022
Mae unigolyn a fu farw mewn gwrthdrawiad traffig ffyrdd a ddigwyddodd ar yr A465, Cefn Coed ym Merthyr Tudful ar 20 Chwefror wedi cael ei enwi fel Luke Morgan, 30 oed, o Gefn Coed.
Mae ei deulu wedi talu teyrnged iddo:
“Roedd Luke yn byw ym Merthyr gyda'i deulu ac roedd ganddo ffrindiau ym mhob rhan o'r cwm.
“Roedd Luke yn fab, yn frawd, yn bartner ac yn ffrind hoffus.
“Roedd yn gwneud i bawb wenu a chwerthin, roedd bob amser yn llawn bywyd ac yn bywiogi pob ystafell fel neb arall.
“Roedd Luke yn mwynhau cymdeithasu ac roedd bob amser yn llawn mynd, o chwarae pêl-droed fel plentyn i fod yn feiciwr motocrós medrus.
“Luke oedd y cyntaf i ymuno ag unrhyw antur.
“Hoffem ddiolch i bawb am eu teyrngedau caredig ac i bawb sydd wedi helpu yn ystod y cyfnod trist hwn.”
Mae swyddogion yn parhau i apelio am dystion i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd tua 7.20am ac a oedd yn ymwneud â Fiat 500 du a oedd yn teithio i gyfeiriad Cefn Coed cyn gadael y ffordd.
Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad neu sydd â fideo o gamera dashfwrdd gysylltu â ni gan ddyfynnu rhif digwyddiad 220058621.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
E-bostiwch: [email protected]
Neu ffoniwch: 101