Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dave Thorne:
“Mae Heddlu De Cymru wedi croesawu'r cyfle i fod yn rhan o'r ymchwiliad pwysig hwn ac i gyfrannu ato, ac rydym wedi bod yn gwbl ymrwymedig i'w gefnogi o'r cychwyn cyntaf. Byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i sicrhau cyfiawnder i bawb y mae rhywun wedi eu cam-drin yn rhywiol neu wedi camfanteisio'n rhywiol arnynt, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd.
“Mae'r adroddiad yn nodi arferion da a meysydd i'w gwella. Rydym yn cydnabod bod angen i bob un ohonom weithio'n galetach i sicrhau bod gan ddioddefwyr yr hyder i gysylltu â ni i roi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd iddynt.
“Rydym yn gwbl ymrwymedig i ddysgu gwersi o ymchwiliadau blaenorol er mwyn sicrhau y gallwn ddiogelu'r rhai sy'n agored i niwed a rhoi'r cymorth gorau posibl iddynt, yn ogystal ag ymchwilio i honiadau i'r safonau uchaf posibl.
“Rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â chofnodi gwybodaeth bwysig megis ethnigrwydd, anabledd a nodweddion gwarchodedig eraill ar systemau'r heddlu, a fydd yn ein helpu i gael darlun llawnach.
“Mae llawer o'r argymhellion a'r arferion da sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad hwn eisoes wedi'u hymgorffori yn ein gwaith. Er bod mathau gwahanol o gam-drin plant yn rhywiol wedi datblygu dros amser, felly hefyd y mae ein harferion a'n buddsoddiad yn y maes plismona cymhleth hwn, ac mae mwy o swyddogion arbenigol nag erioed yn gweithio i ddiogelu pobl agored i niwed bob dydd. Rydym yn croesawu'r argymhellion a wnaed gan yr Ymchwiliad, yn enwedig unrhyw newidiadau i'r gyfraith sy'n caniatáu cosbau llymach i'r rheini sy'n camfanteisio ar blant yn y ffordd hon.
“Rydym bellach yn gweithio'n llawer mwy agos ac effeithiol gydag amrywiaeth o asiantaethau partner i adnabod arwyddion cam-drin a chamfanteisio rhywiol yn llawer cynharach, fel y gallwn gynnig ymyriadau i gefnogi dioddefwyr a dwyn troseddwyr o flaen eu gwell.
“Mae ymchwilio i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol nad ydynt yn rhai diweddar wedi golygu bod angen i ni fuddsoddi mewn adnoddau dynodedig a swyddogion a staff arbenigol i ymchwilio i honiadau o'r fath.
“Mae'r gydberthynas rhwng goroeswyr a'r heddlu bellach yn un sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a phositifrwydd i raddau helaeth, ac mae'n cynnig gwasanaeth llawer mwy effeithiol i ddioddefwyr a goroeswyr.
“Mae gennym enghreifftiau dirifedi lle mae dioddefwyr achosion o gam-drin nad ydynt yn rhai diweddar wedi ymddiried yn yr heddlu i roi gwybod am eu profiadau, lle maent wedi cael eu credu a lle mae ymchwiliad o'r safon uchaf wedi arwain at gyflawnwyr yn cael eu hanfon i'r carchar am droseddau a gyflawnwyd ddegawdau ynghynt. Mae'n bleser nodi bod ein gwaith i darfu ar y math hwn o droseddu wedi cael ei gydnabod gan yr Ymchwiliad.
“Mae angen i ni sicrhau bod pob plentyn sy'n cael ei gam-drin yn rhywiol yn cael ei gefnogi'n briodol ar ôl iddo gymryd y cam dewr cyntaf i roi gwybod i ni am hynny.
“Credaf ein bod wedi dangos ein hymrwymiad i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin yn rhywiol neu i atal rhywun rhag camfanteisio'n rhywiol arnynt, nawr ac yn y dyfodol, fel sefydliad ac fel aelod annatod o'r rhwydwaith ehangach o bartneriaid sy'n cadw pobl ifanc yn ddiogel.
“Rydym yn croesawu'r argymhellion a bydd angen i ni fynd ati nawr i ystyried manylion yr adroddiad, a fydd yn ein galluogi i wella'r gwasanaeth a gynigir i ddioddefwyr yn ogystal â'r rheini y gallai rhywun gamfanteisio arnynt. Byddwn yn parhau i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o roi'r argymhellion hynny ar waith, ar gyfer plismona yn genedlaethol ac ar gyfer ein partneriaid.
“Rwy'n annog unrhyw un sy'n credu y gallai fod yn cael ei gam-drin neu y gallai rhywun agos ato fod yn cael ei gam-drin neu fod mewn perygl o gael ei gam-drin, i gysylltu â'r heddlu i roi gwybod am hynny.”