Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae tri unigolyn wedi cael eu canfod yn euog o lofruddio Gary Jenkins, a fu farw ar ôl dioddef ymosodiad ym Mharc Bute, Caerdydd.
Ymosodwyd ar Dr Gary Jenkins, a oedd yn 54 oed, yn ystod oriau mân y bore ddydd Mawrth 20 Gorffennaf, a bu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddydd Iau 5 Awst.
Mae Jason Edwards, 25 oed, Lee William Strickland, 36 oed, y ddau o Gaerdydd, a Dionne Timms-Williams, 17 oed, o Gaerdydd, wedi bod o flaen eu gwell yn Llys y Goron Merthyr.
Gwnaethant bledio'n euog i ddynladdiad, lladrad ac ymosodiad adran 47, ond gwnaethant wadu eu bod wedi llofruddio Dr Jenkins.
Heddiw, yn Llys y Goron Merthyr, fe'u cafwyd yn euog o'i lofruddio.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Stuart Wales, yr Uwch-swyddog Ymchwilio:
“Roedd Dr Gary Jenkins yn dad, gŵr, brawd a ffrind annwyl iawn.
“Yn broffesiynol, roedd ganddo yrfa feddygol lwyddiannus fel Seiciatrydd Ymgynghorol ac roedd yn uchel ei barch am y gofal a'r cymorth arbenigol a roddodd i'w gleifion niferus.
“Roedd yr ymosodiad ar Dr Jenkins gan y tri diffynnydd yn llwfr ac yn gwbl ddisynnwyr.
“Roedd graddau a hyd y trais diangen a ddioddefodd, ynghyd â'r difrïo homoffobig – a glywyd ar recordiad sain – yn erchyll a syfrdanol. Ni wnaeth unrhyw beth o gwbl i gyfiawnhau hyn.
“Ni fydd unrhyw beth yn llenwi'r bwlch ym mywydau'r rhai a oedd yn caru Gary ac sydd wedi dioddef ei golli yn yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy.
“Rydym yn croesawu'r dyfarniadau yn y llys heddiw ac er ein bod yn gobeithio y bydd teulu Gary yn gallu ailadeiladu eu bywydau mewn amser, gwyddom y bydd yn agos yn eu meddyliau bob amser.
“Hoffwn ddiolch i'r tystion a'r gymuned ehangach a gefnogodd yr ymchwiliad cymhleth a heriol hwn, yn enwedig ein cymunedau LHDTC+, lleoliadau a chynghorwyr lleol, yr oedd eu hymgysylltiad cadarnhaol, eu cymorth a'u dewrder yn allweddol wrth sicrhau'r euogfarnau heddiw.
“Drwy gydol yr ymchwiliad, mae swyddogion Troseddau Casineb ynghyd ag asiantaethau LHDTC+ trydydd sector wedi darparu cymorth ac arweiniad i'r rhai y mae llofruddiaeth Dr Jenkins wedi effeithio arnynt.
“Yn olaf, hoffwn gydnabod yr ymyriad meddygol cychwynnol gan swyddogion yr heddlu a pharafeddygon ar y noson, yn ogystal â phroffesiynoldeb dilynol y Tîm Ymchwilio i Droseddau Mawr. Mae eu hymdrechion, ynghyd â'r gwaith paratoi achos gan Wasanaeth Erlyn y Goron a'r Cwnsleriaid, wedi cyfrannu at y canlyniad heddiw.”
Caiff yr unigolion eu dedfrydu ar 25 Mawrth.
Mae teulu Dr Gary Jenkins, sy'n gofyn am breifatrwydd ar hyn o bryd, wedi rhyddhau'r datganiad canlynol:
“Roedd Gary yn ddyn mor garedig na fyddai byth yn brifo neb. Roedd yn ddyn hynod hael a chreadigol a oedd ond â bwriadau da.
Mae'r ffaith bod bywyd preifat Gary wedi cael ei arddangos drwy dreial yn Llys y Goron ond wedi dwysáu effaith y digwyddiad hwn ar ein teulu, ffrindiau a chydweithwyr.
Mae wedi bod yn ofnadwy gorfod gwrando ar fanylion yr hyn a ddigwyddodd.
Mae marwolaeth gynamserol Gary hefyd wedi cael effaith ar ei gleifion. Roedd Gary yn un o'r meddygon mwyaf trugarog, caredig a thosturiol y gallai rhywun gwrdd ag ef.
Treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd gwaith yn y GIG.
Ni allwn ddod â Gary yn ôl. Nid oes unrhyw enillwyr yn yr achos hwn, dim ond collwyr, ond fel teulu rydym yn falch ein bod wedi cael cyfiawnder.
Fel teulu hoffem ddiolch i'r heddlu am eu hymdrechion i ddwyn y troseddwyr gerbron y llys a'r ddau brif dyst yn y treial hwn, sef Mr Hill a Mr Williams, am eu dewrder a'u hymdrechion anhygoel i helpu Gary.
Maent yn Samariaid Trugarog. Byddwn yn ddiolchgar iddynt am byth, ac ni fyddwn byth yn anghofio'r hyn a wnaethant i helpu.”
Mae Heddlu De Cymru yn cydnabod bod Mr Louis Williams, a ymyrrodd yn ddewr, hefyd wedi dioddef yr un ymosodiad ac mae wedi cael ei gefnogi gan swyddog dynodedig drwy gydol yr ymchwiliad.
Mae Heddlu De Cymru yn eiriolwr brwd dros gymunedau LHDTC+ ac yn hyrwyddo eu hawliau drwy bopeth a wna.
Mae gan Gaerdydd draddodiad hir a balch o gydnabod, dathlu ac amddiffyn cydraddoldeb ac amrywiaeth.
Gofynnir i unrhyw un sydd â phryderon am droseddau casineb gysylltu â Heddlu De Cymru yn gyfrinachol.
Ewch i: https://www.south-wales.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/us/cysylltu-a-ni/darparu-mwy-o-wybodaeth-iw-hychwanegu-at-adroddiad-trosedd/
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Trosedd casineb yw unrhyw drosedd a ysgogir gan elyniaeth ar sail hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol.