Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffordd tua 07.20am ddydd Sul 20 Chwefror 2022 ar yr A465 rhwng Cefn Coed a Dowlais.
Roedd Fiat 500 du yn teithio tuag at Gefn Coed pan adawodd y ffordd. Cafodd y gyrrwr, dyn lleol 30 oed, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.
Bu'r ffordd ar gau am tua wyth awr er mwyn i'r gwaith ymchwilio gael ei wneud. Mae'r heddlu am ddiolch i'r gymuned am ei hamynedd a'i dealltwriaeth yn ystod yr adeg hon.
Mae Heddlu de Cymru am siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, unrhyw un â chamera dashfwrdd a ffilmiodd y digwyddiad neu unrhyw un a welodd sut roedd y car yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.
A allai tystion gysylltu ag uned Plismona'r Ffyrdd yng ngorsaf heddlu Gwaelod y Garth gan ddyfynnu digwyddiad 2200058621.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Neu drwy ffonio: 101