Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu De Cymru gadarnhau bod 27 o bobl wedi cael eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â'r anrhefn ar raddfa fawr yn Mayhill ar 20 Mai 2021.
Mae'r bobl hynny rhwng 15 a 44 oed. Mae'r cyhuddiadau yn ymwneud â therfysg, ac mae dau ddiffynnydd hefyd yn wynebu cyhuddiadau o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd neu yn ddi-hid ynghylch a fyddai hynny yn rhoi bywyd rhywun arall yn y fantol.
Byddant yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Abertawe rhwng 2 a 4 Mawrth 2022.
Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Trudi Meyrick, sef y comander plismona ar gyfer Abertawe Castell-nedd Port Talbot:
“Yn dilyn ymchwiliad trylwyr gan dditectifs lleol, cyflwynwyd ffeiliau o dystiolaeth yn erbyn yr unigolion hyn i Wasanaeth Erlyn y Goron, ac ar ôl ystyriaeth ofalus, mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi awdurdodi'r cyhuddiadau o derfysg a thân bwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
“Roedd y tîm ymchwilio yn gwbl ymrwymedig i ymchwilio'n llawn i'r anrhefn a ddigwyddodd y noson honno; gwelwyd golygfeydd ofnadwy o anrhefn yn ardal Mayhill, gan achosi niwed a gofid mawr i'r gymuned.
“Mae'r broses farnwrol yn mynd rhagddi ac rydym yn aros am ganlyniad y broses honno. Yn y cyfamser, mae ein Tîm Plismona yn y Gymdogaeth yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau a chymunedau lleol i fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i drigolion Mayhill a'r cyffiniau.”