Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn adolygiad trais rhywiol a gynhaliwyd ledled y DU, mae Heddlu De Cymru yn treialu dull newydd o ymchwilio i achosion o drais rhywiol, sy'n canolbwyntio ar hygrededd yr unigolyn dan amheuaeth yn hytrach na hygrededd achwynwyr.
Mae'r dull newydd, sef Ymgyrch Soteria, yn anelu at leihau'r tebygolrwydd y bydd unigolion yn aildroseddu ac at sicrhau bod ymchwiliadau yn fwy trylwyr ac effeithiol.
Dywedodd Ditectif Uwcharolygydd Ceri Hughes:
“Mae Ymgyrch Soteria yn ddull system gyfan, ar draws pob cenhedlaeth o ystyried y ffordd yr ymchwilir i achosion o drais rhywiol. Yn unol â Chynllun yr Heddlu a Throseddu*, mae dioddefwyr wrth wraidd y dull hwn, a cheir cyfranogiad academaidd sylweddol, yn ogystal â chyfranogiad gan bartneriaid statudol ac anstatudol.
"Mae gennym gyfle ardderchog, fel un o ddim ond pump heddlu yng Nghymru a Lloegr, i ddangos esiampl wrth wella arferion mewn perthynas ag ymchwilio i achosion o drais rhywiol. Bydd cymryd rhan yn yr ymgyrch yn ategu'r buddsoddiad sylweddol a wnaed gennym, gan sefydlu timau arbenigol ym mhob rhan o'r heddlu i ymchwilio i achosion o drais rhywiol, a phenodi 85 o dditectifs i ymwneud yn benodol ag ymchwilio i achosion o drais rhywiol."
Lansiwyd Ymgyrch Soteria yn ffurfiol gan yr heddlu ar 1 Tachwedd 2021. Mae'r cynllun peilot eisoes wedi gwneud y canlynol:
Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Emma Wools:
"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu ar y cyd â'n partneriaid i wella profiad dioddefwyr o'r system cyfiawnder troseddol a chreu achosion gwell a chryfach er mwyn sicrhau cynnydd yn nifer yr unigolion dan amheuaeth a gaiff eu cyhuddo.
"Mae gwaith paratoi yn mynd rhagddo, cyn cynnal ein harolygiad manwl o Ymgyrch Soteria ym mis Gorffennaf 2022, a bydd hyn yn arwain at nifer o argymhellion o ran sut y gallwn ddatblygu'r gwasanaeth a ddarperir gennym a'i wella.
"Drwy weithio gyda chydweithwyr yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron, gallwn greu cynllun gweithredu ar y cyd a dangos ymhellach ein hymrwymiad parhaus gyda'n partneriaid i sicrhau bod dioddefwyr yn cael y gwasanaeth a'r canlyniad gorau posibl mewn perthynas â'r ymchwiliad."