Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r unigolyn a fu mewn damwain traffig ffyrdd angheuol a ddigwyddodd ar yr M4 ger Abertawe ddydd Gwener 18 Chwefror wedi cael ei henwi fel Thavarajah Sasikaran, 41 oed, o ardal Waun Wen yn Abertawe.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar yr M4 tua'r gorllewin rhwng cyffyrdd 46 a 47, ychydig cyn 8.35pm ar 18 Chwefror.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys Nissan Qashqai lliw arian a cherddwr a gafodd ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle, er gwaethaf pob ymdrech i achub ei fywyd.
Mae swyddogion yn apelio am i unrhyw un nad yw wedi cysylltu â nhw eto a all fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu sydd â deunydd camera dashfwrdd o'r hyn a ddigwyddodd neu a all fod wedi gweld y dioddefwr yn cerdded ar hyd y draffordd i gysylltu â Heddlu De Cymru, gan ddyfynnu digwyddiad *057156.
Ewch i: https://bit.ly/SWPProvideInfo
Anfonwch neges breifat atom ar Facebook/Twitter
Drwy e-bost: [email protected]
Ffôn: 101